Rhoddir * o flaen yr achosion hynny sy'n anghyffredin.
Rhoddir y geiriau sy'n cael eu treiglo mewn llythrennau duach.
| Adferf goleddfu + ansoddair | Meddal |
| gair mesur + yn + ansoddair | Meddal |
| ansoddair + adferf goleddfu | Meddal |
| ansoddair + enw | Meddal |
| berf (+ goddrych) + gair | Meddal |
| i + gweithredydd + berfenw | Meddal |
| bu + byw, marw | Meddal |
| enw/ansoddair/gair cwestiwn + ffurf ar bod + goddrych | Meddal |
| enw benywaidd unigol + gair ansoddeiriol | Meddal |
| trefnolion + enw benywaidd unigol | Meddal |
| newid trefn geiriau (sangiad) | Meddal |
| yn + adferf modd + berfenw | Meddal |
| enw/rhagenw + enw mewn cyfosodiad | Meddal |
| adferfau amser, mesur, dull | Meddal |
| berfau syml meddyliol fel cymalau ymwthiol | Meddal |
| enwau cyfarchol | Meddal |
| bod ar ddechrau cymal enwol | Meddal |
| * enw priod + ansoddair | Meddal |
| * ffurf ar bod + enw/ansoddair | Meddal |
| * enw lluosog + rhifolyn | Meddal |
| * ansoddeiriau yn y radd gydraddol heb cyn | Meddal |