Treigladau yn y Gymraeg



      Trefnolion + enwau benywaidd unigol: Meddal

      Ceir y treiglad Meddal ar enwau benywaidd unigol:

      y drydedd ferch
      y bedwaredd wlad

      Mae'r trefnolion cyntaf ac ail yn wahanol:

      • daw cyntaf ar ôl yr enw ac nid yw'n achosi treiglad ar yr enw:

        • y diwrnod cyntaf
        • y ferch gyntaf

        Esbonnir pam y treiglir cyntaf yn yr enghraifft ddiwethaf yn enw benywaidd unigol + gair ansoddeiriol.

      • achosa ail y treiglad Meddal ar bob enw a ddilyn, gwrywaidd neu fenywaidd:

        • yr ail ferch
        • yr ail ddyn

       

      Tudalen Flaen Patrymau Gramadegol sy'n Achosi Treigladau