Treigladau yn y Gymraeg

      Bob Morris Jones
      Adran Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth
      bmj@aber.ac.uk


      Enw benywaidd unigol + gair ansoddeiriol: Meddal

      Ceir y treiglad Meddal ar eiriau ansoddeiriol a ddilyn enwau benywaidd unigol. Mae'r geiriau ansoddeiriol yn cynnwys ansoddeiriau, enwau eraill a berfenwau e.e.:

      • ansoddeiriau

        • bran ddu
        • cadair fawr

      • enwau

        • llwy bren
        • het wellt

      • berfenwau

        • cyllell dorri bara
        • basged gadw dillad

      Tudalen Flaen Patrymau Gramadegol sy'n Achosi Treigladau