Treigladau yn y Gymraeg

Bob Morris Jones
bmj@aber.ac.uk

 

Ansoddair + enw: Meddal

Pan mae ansoddair yn dod o flaen enw, ceir y treiglad Meddal ar yr enw e.e.:

prif ddull
gwahanol lyfrau
llawn botensial

Ansoddeiriau cyffredin a ddaw o flaen yr enw fel arfer yw:

hen, gwahanol, prif, unig

Dywedir mewn rhai o'r cyfeirlyfrau nad yw ansoddeiriau sydd yn y graddau cyfartal a chymharol yn achosi treiglad. Ond yn yr iaith lafar yn y gogledd, ceir y treiglad Meddal ar yr enw pan mae ansoddair cymharol yn dod o'i flaen e.e.:

cryfach ddyn
doethach ddynes

Tudalen Flaen Patrymau Gramadegol sy'n Achosi Treigladau