Bob Morris Jones
Adran
Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth
bmj@aber.ac.uk
Mewn brawddeg sydd â berf, ceir y treiglad Meddal ar y gair cyntaf a ddaw ar
ôl safle arferol y goddrych hyd yn oed os yw'r goddrych yn cael ei hepgor
e.e.:
| prynodd | Siân | lawer o ffrwythau |
| gwelais | fran ddu | |
| prynais | gar newydd | |
| ceisiais | fynd ymlaen | |
| gall | y dynion ifainc | werthu eu ceir |
Gellir dadlau mai'r rheol hon sy'n gyfrifol am y treiglad ar ôl yna
mewn brawddegau cypladol gan fod yna yn mynd yn lle'r goddrych ac yn
newid ei safle e.e.:
| mae | blodau | yn y coed | |
| mae | yna | flodau | yn y coed |
| roedd | digon o helpwyr | |
| roedd | yna | ddigon o helpwyr |
Tudalen Flaen Patrymau Gramadegol sy'n Achosi Treigladau