Treigladau yn y Gymraeg



      i + gweithredydd + berfenw: Meddal

      Ceir y treiglad Meddal ar y berfenw e.e.:

      aeth Siôn cyn i'r trên gyrraedd
      mae hi'n disgwyl i ni fynd
      ar ôl i'r dynion fwyta, yr oeddynt yn teimlo'n well

      Yr ymadroddion berfenwol yw'r canlynol: cyn i'r trên gyrraedd, i ni fynd ac ar ôl i'r dynion fwyta. Ac i'r trên, i ni ac i'r dynion yw'r gweithredyddion; heb y gweithredyddion, nid yw'r berfenwau yn treiglo:

      aeth Siôn cyn cyrraedd
      mae hi'n disgwyl mynd
      ar ôl bwyta, yr oeddynt yn teimlo'n well

       

      Tudalen Flaen Patrymau Gramadegol sy'n Achosi Treigladau