Treigladau yn y Gymraeg



      Newid trefn geiriau (sangiad): Meddal

      Ceir y treiglad Meddal ar air cyntaf ymadrodd a symudir o'i safle arferol i safle arall e.e.:

        mae llyfr gennyf
        mae gennyf lyfr

        mae dwy bunt arnaf i chwi
        mae arnaf ddwy bunt i chwi

        gallaf roi llyfr i Sion
        gallaf roi i Sion lyfr

        rhestrir geiriau Saesneg yma
        rhestrir yma eiriau Saesneg

      Digwydd hyn i gymal sy'n wrthrych e.e.

        gallaf gredu bod Siān yna hefyd
        gallaf gredu hefyd fod Siān yna

       

      Tudalen Flaen Patrymau Gramadegol sy'n Achosi Treigladau