Bob Morris Jones
bmj@aber.ac.uk
Gall
rhai ansoddeiriau ddigwydd ar ôl ansoddeiriau eraill er mwyn goleddfu eu
hystyron. Treiglir yr ansoddair sy’n goleddfu, e.e.: 
gwych
ryfeddol 
gwael ddychrynllyd 
Gall y
gair mesur digon oleddfu ansoddair yn y safle yma, a cheir y treiglad
meddal arno: 
cywir
ddigon
Treiglir digon ar ôl ansoddair ond ni achosa dreiglad pan daw o
flaen ansoddair: 
digon cywir ‘true enough’
Tudalen Flaen Patrymau
Gramadegol sy'n Achosi Treigladau