English

Rydym wedi ail-leoli ein Hwb Allgymorth i fbaps-outreach-hub.dcs.aber.ac.uk.

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddileu cyn bo hir.

Ymddigeuriadau am unrhyw anghyfleustra.


Hwb Allgymorth ar gyfer y Gyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol

Adnoddau Allgymorth








Gwybodaeth Gwefan



Cysylltwch â ni


Allgymorth

Fy enw i yw Natalie Roberts a fi yw Swyddog Estyn Allan y Gyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roeddwn am gymryd y cyfle hwn i'm cyflwyno fy hun ac egluro ychydig am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud i gynnal ein gweithgareddau estyn allan yn ystod y cyfnod clo cyfredol.

Mae'n bosib eich bod eisoes yn gwybod ein bod ni, cyn Covid-19, yn cynnig gweithdai mewn ysgolion ac i'r cyhoedd am ddim, ac ar gyfer pob oed, ym meysydd Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Erbyn hyn, rydym yn cynnig amrywiaeth ehangach o weithdai, wrth inni gynnwys Busnes ac Astudiaethau Gwybodaeth, yn rhithwir. Gweler y ddewislen lawn isod:

Dewislen Gweithgareddau Allgymorth Cyfredol (pdf)

Rydym yn deall bod y flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn anodd iawn i athrawon, rhieni, a myfyrwyr, a'u rhoi dan straen. Felly, rydym wedi dechrau rhoi gweithdai ac adnoddau yma (ar Hwb Allgymorth y Gyfadran), er mwyn iddynt fod ar gael i ddysgwyr yn uniongyrchol.

Gan fod y rhain wedi'u hanelu at ddysgu'n fwy annibynnol, yn hytrach nag yn yr ystafell ddosbarth (rithwir neu real), penderfynwyd addasu rhai o'r deunyddiau hyn a'u troi yn becynnau adnoddau i athrawon ac maen nhw bellach ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon trwy TES (The Times Educational Supplement). Gallwch ddod o hyd i'r adnoddau hyn yn ein siop TES.

Rydym wrthi'n datblygu deunyddiau a gweithdai newydd drwy'r amser. Os oes gennych awgrym, ymholiad, neu'n chwilio am gymorth ar gyfer pwnc/maes penodol, mae pob croeso ichi gysylltu â mi (nar25@aber.ac.uk).

Pynciau Poeth


Digwyddiadau


Adnodd Dosbarth Uchaf

Newyddion Allgymorth

LLEOLIAD NEWYDD, EDRYCHIAD NEWYDD:
Rydym yn ail-leoli ein gwefan allgymorth ac am fanteisio ar y cyfle i ymgymryd ag ychydig newidiadau dylunio yn y broses.