Heriau o Bell EV3

English

Heriau o Bell EV3

Bydd y gyfres o heriau yn ein harwain drwy'r hanfodion rhaglennu ar gyfer unedau EV3 o wahanol gynlluniau Lego Mindstorms.

Cafodd y gyfres ei chynllunio ar gyfer y rheiny heb fynediad uniongyrchol at y robotiaid.

Dyma'r canlyniadau dysgu arfaethedig:

Dechrau Arni

Mae gennym ddau opsiwn meddalwedd i raglennu'r unedau EV3:

  1. Meddalwedd swyddogol Lego Mindstorms (sy'n cynnwys ei gosod)- ac ar gael ar gyfrifiadur personol (PC), llechen neu Mac (er mae'n gweithio orau ar gyfrifiadur personol)

  2. Microsoft MakeCode ar gyfer Mindstorms (yn y porwr)

Er mwyn defnyddio'r holl nodweddion, y meddalwedd swyddogol yw'r dewis gorau. Fodd bynnag, mae'r dewis hwn wedi'i gynllunio ar gyfer dechreuwyr heb brofiad o raglennu, ac felly mae'n well gan y rhai hynny a chanddynt rywfaint o brofiad ddewis MakeCode.

Er mwyn gallu cysylltu â sgrinluniau a thudalennau cymorth, darllenwch y pdf Dechrau Arni.

Cyflwyno'r Heriau

Helo?
......
Oes rhywun yn fy nghlywed i?
......
Fi yw'r goruchwyliwr Tango Alpha Lima Lima Yankee o Fwynglawdd Dwfn #31313
......
Dwi angen cymorth
......
Daeargryn
......
Difrod strwythurol ac i'r systemau
......
Rhaid adalw'r holl unedau gwaith EV3
......
Y systemau rheoli o bell wedi'u difrodi
......
Rhaid i raglenni pob uned ddychwelyd i'r uned reoli
......
Meddalwedd rhaglennu wedi'i difrodi
......
All rhywun helpu trwy anfon rhaglenni ataf i'w lanlwytho
......
Trosglwyddo'r gofynion ar gyfer adalw pob uned
......
Croesi bysedd fod rhywun allan yno yn derbyn hwn
......

Dewis o Heriau

Johnny the Training Robot
Ant-like Robot
Coming Soon
Coming Soon
Tracker Robot
Coming Soon
Coming Soon
Coming Soon
Coming Soon
Coming Soon
Coming Soon