Dewiswch y pennawd isod i ddatgelu map yr her, y manylion rhaglennu a'r dasg ymestynnol ar gyfer y meddalwedd rydych wedi'i ddewis.
Yr Her: Llywio uned y Traciwr at darged y morthwyl, ysgogi'r morthwyl, yna symud ymlaen i'r diwedd.
Fe welir isod y ffigurau i'ch helpu â'r her ar gyfer uned y Traciwr.
Gweithred | Pŵer chwith y modur | Pŵer de y modur | Nifer y cylchdroadau | Gwerth y trothwy |
---|---|---|---|---|
I deithio ymlaen un sgwâr grid*1 | 100% | 100% | 4 | amherthnasol |
Troad 90° i'r dde | 50% | -50% | 1.4 | amherthnasol |
Datgelu'r wal | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | <10 |
Datgelu'r ffagl*2 | amherthnasol | amherthnasol | amherthnasol | <70 |
*1 Mae'r ddrysfa wedi'i gwneud ar grid sgwâr 5x5
*2 Wrth deithio ymlaen
Rheolyddion y Morthwyl: Mae'r morthwyl yn cael ei ysgogi gan y 'Modur Canolig'. Er mwyn gollwng y morthwyl, dim ond 0.5 cylchdro ar gyflymdra o 50% fydd ei angen arnoch. I'w godi yn ôl i'w safle, gwnewch 0.5 cylchdro ar -50% cyflymdra. PEIDIWCH â gwneud mwy na hyn gan y gallai arwain at ddifrodi'r robot, rhewi'r rhaglen neu anafu'r defnyddiwr.
Sut byddech chi'n gorfod newid eich rhaglen i gwblhau'r ychwanegiadau isod?

Gall aelodau Clwb Roboteg Aberystwyth rannu dolen gyswllt i'w rhaglen MakeCode neu anfon rhaglen Lego Mindstorms yn uniongyrchol drwy weinydd Discord y clwb.
Os nad ydych yn aelod ond yn dymuno gweld a yw eich rhaglen yn gweithio, anfonwch e-bost yn cynnwys un ai'r ffeil Lego Mindstorms neu ddolen gyswllt i'ch rhaglen MakeCode at nar25@aber.ac.