Rhaglen Allgymorth Safon Uwch
      Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.
      Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.
      Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.
     
    
      
      Ymarfer
      Diben y gweithgaredd hwn yw eich cael i ddefnyddio'ch dealltwriaeth am Fodel (5) Grym Porter wrth drafod Uber.
      Gwnewch restr o'r pum grym a nodwch yr holl ffyrdd y mae Uber yn defnyddio (5) Grym Cystadleuol Porter yn strategol. Yna rhowch gynnig ar y gweithgareddau canlynol.
      
        - Ym mha ffyrdd y mae'r gystadleuaeth mewn diwydiant yn effeithio ar Uber? Beth mae Uber wedi'i wneud i newid yr amgylchfyd i'r diwydiant yn ei gyfanrwydd?
        - Gwnewch restr o'r elfennau sy'n cael blaenoriaeth ym model Porter y dylai Uber eu monitro fwyaf gofalus.
        - Ewch i hafan Uber ac ymchwiliwch i'r ffyrdd y mae Uber yn amrywio'i werth i gwsmeriaid posib.
        - Ymhen 5 mlynedd, a ydych chi'n credu mai Uber Ride fydd yr elfen fwyaf yn refeniw Uber o hyd? Defnyddiwch dystiolaeth o fodel Porter i ategu eich ateb.