Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.
Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.
Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.
Mae cwmni yn ystyried prynu cynnyrch newydd oddi wrth gyflenwr am £350 yr uned.
Er mwyn ei gynhyrchu'n fewnol, y gost sefydlog fesul blwyddyn fyddai £130,000, a chyfanswm y costau newidiol fyddai £80 y darn.
Gan ddefnyddio'r dull graffigol a'r dull mathemategol, beth fyddai'r pwynt adennill costau o ran niferoedd a chostau ar gyfer penderfynu a ddylid cynhyrchu neu brynu?
Dull Mathemategol:
Q = Fc / (R-v)
Q = 130,000 / (350-80)
Q = 482 cynnyrch
Ar gyfer 482 cynnyrch, mae'r gost o roi'r gwaith allan yn cyfateb i'r gost o'i wneud yn fewnol. Dyma bwynt penderfyniad strategol ar gyfer rhoi gwaith allan
Dull Graffigol:
Cwmni gweithgynhyrchu yw ABC Cyfyngedig. Gofynnodd cwsmer i'r cwmni weithgynhyrchu cynnyrch newydd. Fodd bynnag, nid yw ABC yn sicr a fyddai'n gallu cynhyrchu'r cynnyrch mewn da bryd nac i'r safon angenrheidiol y mae'r cwsmer yn ei mynnu mewn cyfnod mor fyr. Mae'r cwmni wedi penderfynu trefnu i'r cynnyrch gael ei ddarparu gan gyflenwyr allanol yn ystod y camau cyntaf tan fod y cwmni'n hapus y gall gynhyrchu'r cynnyrch yn gywir.