Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.
Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.
Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.
Cwestiynau wedi'u seilio ar bapur Astudiaethau Busnes Edexcel 2010
Roedd Neville Smith yn bryderus iawn. Gwelodd drosiant ei fusnes Cadw Gwyliadwriaeth yn cynyddu 50 y cant rhwng 2017 a 2018, gyda chynnydd cyffelyb mewn elw gros. Fodd bynnag, ar ôl i'r costau gweithredu gael eu didynnu, cafodd colled o £16,300 yn 2017 ei droi'n elw gweithredol o ddim ond £7,330 yn 2018, sy'n golygu bod yr adenillion ar werthiannau yn llai na 3 y cant.
Roedd Neville a'i fab Sam, sy'n bartner yn y cwmni, yn gwybod bod eu ffin elw gros ar gamerâu Teledu Cylch Cyfyng yn cyd-fynd â'r hyn oedd yn arferol yn y diwydiant, ac ar ben hynny roedd eu gwasanaeth ôl-werthu yn eithriadol, ond serch hynny nid oeddent yn gweld enillion ariannol. Ar ôl cyfarfod â rheolwr y banc, roedd gofyn iddynt gynhyrchu cyfres o gyllidebau a'u hymgorffori i ragolwg llif arian.
Ffigur 1:
2017 | 2018 | 2019 | |
---|---|---|---|
Trosiant | £240,000 (gwirioneddol) | £360,000 (gwirioneddol) | £480,000 (cyllideb) |
Roedd eu llyfr archebion yn ehangu ac roeddent yn teimlo bod cynnydd o 33 y cant mewn refeniw gwerthiannau yn bosibl. Dangosir y ffigurau gwerthu a gyllidebwyd ar gyfer y 6 mis cyntaf yn y rhagolwg llif arian (ffigur 3).
Ffigur 2:
2017 | 2018 | 2019 | |
---|---|---|---|
Costau Llafur | £57,000 (gwirioneddol) | £70,000 (gwirioneddol) | £73,000 (cyllideb) |
Roedd y cwmni'n cyflogi dau beiriannydd ac un gweinyddwr rhan-amser. Talwyd pecyn cyflog i'r peirianwyr, ni waeth faint o systemau a osodwyd na faint o amser a gymerai i'w gosod, pecynnau a oedd wedi cynyddu'n sylweddol yn 2018. Roedd pob peiriannydd yn cael defnyddio fan o eiddo'r cwmni ac yn mynd â hi adref bob nos. Dangosir y costau llafur a gyllidebwyd am y 6 mis cyntaf yn y rhagolwg llif arian.
Ffigur 3:
2019 Incwm | Ionawr £ | Chwefror £ | Mawrth £ | Ebrill £ | Mai £ | Mehefin £ |
---|---|---|---|---|---|---|
Gwerthiannau* | 20,500 | 26,000 | 42,000 | 42,000 | 53,000 | 53,000 |
Gwariant | ||||||
Llafur | 6,000 | 6,000 | 6,000 | 6,000 | 6,000 | 6,000 |
Adeiladau | 4,000 | 4,000 | 4,000 | 4,000 | 4,000 | 4,000 |
Hysbysebu | 2,000 | 2,000 | 2,000 | 2,000 | 2,000 | 2,000 |
Moduro | 1,900 | 1,900 | 1,900 | 1,900 | 1,900 | 1,900 |
Gweinyddu | 1,400 | 1,400 | 1,400 | 1,400 | 1,400 | 1,400 |
Cyllid | 500 | 500 | 500 | 500 | 500 | 500 |
Amrywiol | 1,000 | 1,000 | 1,000 | 1,000 | 1,000 | 1,000 |
Deunyddiau | 11,000 | 14,000 | 22,000 | 22,000 | 28,000 | 28,000 |
Lluniadau | 2,000 | 2,000 | 2,000 | 2,000 | 2,000 | 2,000 |
Cyfanswm y Gwariant | 29,800 | 32,800 | 40,800 | 40,800 | A | 46,800 |
Llif Arian Net | (9,300) | (6,800) | 1,200 | 1,200 | B | 6,200 |
Gweddill Terfynol | (9,300) | (16,100) | (14,900) | (13,700) | C | (1,300) |
Rhowch ddau reswm i esbonio pam na ellid efallai cyflawni'r gwerthiannau a gyllidebwyd ar gyfer 2019 (Ffigur 1). (7 marc)
Cyfrifwch y ffigurau sydd ar goll ym mhwyntiau A, B ac C yn y rhagolwg llif arian (Ffigur 3). (2 marc)
Esboniwch ddau o gyfyngiadau defnyddio rhagolygon llif arian yn achos Watch UK. (4 marc)
Mae banciau'n cynnig gwahanol fathau o gyllid i fusnesau.
I ba raddau y gellid ystyried bod gorddrafft yn well na benthyciad i fynd i'r afael â phroblemau llif arian Watch UK? (8 marc)