Rhaglen Allgymorth Safon Uwch
      Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.
      Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.
      Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.
     
    
      Ymarfer
      Busnes canolig yng Nghaer yw RemaPlay.
      Maen nhw'n gwerthu teganau addysgol drwy'r we, archebu drwy'r post a chatalogau.
      Maen nhw'n canolbwyntio ar gystadlu drwy gyflenwi nwyddau am gost isel.
      Mae dwy lefel i'r sefydliad: Y teulu sy'n berchen arno a'r staff sy'n cael eu talu fesul awr.
      Dangosir dosbarthiad y staff sy'n cael eu talu fesul awr yn y tabl isod.
      
      
      | Adran | Nifer Staff | 
      
      | cynhyrchu | 24 | 
      
      | Pacio | 15 | 
      
      | Warws | 5 | 
      
      | Swyddfa | 4 | 
      
      Problemau Cyfredol
      
      - Mae pob aelod staff sy'n cael eu talu fesul awr yn ennill yr un swm.
- Nid oes digon o reolaeth sefydliadol dros elfennau ansawdd, costau ac amser.
- Staff hŷn, a mwy profiadol yn gwneud mwy yn eu gwaith, ond yn cael eu talu'r un swm.
- Y teulu sy'n berchen ar y cwmni yn achosi problemau trwy gyflawni eu swyddi'n wael, heb ddirprwyo (gan nad oes hierarchaeth i ddirprwyo iddi).
- "D yw'r llaw chwith ddim yn gwybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud" 
Cwestiynau
      
      - Amlinellwch pam y gallai diffyg hierarchaeth arwain at broblemau wrth redeg y busnes.
- 
    Sut mae'r strwythur presennol yn effeithio ar;
      
      - Broffidioldeb?
- Ysbryd?
- Cyfathrebu yn gyffredinol
 
- Eglurwch sut dylai RemaPlay gael ei strwythuro drwy siart sefydliadol.
- Sut gallai eich strwythur sefydliadol chi wella gweithrediadau a phroffidioldeb?