Rhaglen Allgymorth Safon Uwch
Croeso i rifyn o Gyfres Darlithoedd Fideo Ysgol Fusnes Aberystwyth.
Mae'r darlithoedd hyn yn cyd-daro â'r Cwricwlwm Astudiaethau Busnes Safon Uwch ledled y Deyrnas Unedig.
Ymddiheuriadau mai dim yn Saesneg y maent ar gael ar hyn o bryd.
Ymarfer
Daw'r ymarfer isod o wefan Great Ideas for Teaching Marketing.
Cynnyrch Newydd: Penderfyniad Anodd
Gillette yw'r arweinydd yn y farchnad raseli. Ond, er mwyn cadw'r safle hwnnw, bu'n rhaid gwneud ambell benderfyniad anodd ar hyd y daith. Adolygwch y sefyllfa ganlynol - pe bai chi yn Brif Swyddog Gweithredol y cwmni, a fyddech chi wedi gwneud yr un penderfyniad?
Tasg
Mae arloesedd technoleg eu raseli yn destun balchder cwmni Gillette. Felly, ddau ddegawd yn ôl nid oedd yn syndod gweld y Prif Swyddog Gweithredol yn cymeradwyo datblygu rasel newydd (sef y Mach 3 yn ddiweddarach - rasel dri llafn cyntaf y byd). Er hynny, roedd y penderfyniad hwn yn rhyfeddol pan ystyriwn yr amgylchiadau a arweiniodd at greu'r cynnyrch, sef:
- Ymchwiliwyd yn wael i gysyniad y cynnyrch - nid oedd y cwsmeriaid yn gallu gweld unrhyw werth ychwanegol i rasel dri llafn (o'i chymharu â'r rasel ddau lafn bresennol)
- Roedd pennaeth gweithgynhyrchu Gillette yn ansicr a fyddai modd cynhyrchu'r rasel (gan fod y cynlllun mor arbenigol ac yn cynnwys metel newydd nad oedd wedi ei ddefnyddio o'r blaen ar gyfer raseli). Ni allai ddweud, felly faint o amser y byddai'n cymryd cyn sefydlu'r broses weithgynhyrchu na faint fyddai'r gost (yn y pen draw, mi gymerodd dair blynedd gan gostio bron $1 biliwn)
- Dywedodd arbenigwr ar brisio ym Mhrifysgol Harvard na fyddai rasel untro yn gwerthu yn y farchnad am y pris roedd Gillette yn bwriadu ei godi
- Awgrymodd sawl rheolwr yn Gillette y dylai'r cwmni uwchraddio ei gynnyrch presennol yn lle troi at gynnyrch newydd (roedd y Sensor Excel â dau lafn yn arwain y farchnad yn y rhan fwyaf o wledydd). Dyma, yn eu barn nhw, oedd manteision uwchraddio'r Sensor Excel: roedd yn osgoi'r metel newydd (a oedd yn peri oedi yn y broses weithgynhyrchu), gellid ei gyflwyno'n gynt, ac ni fyddai'n rhaid sefydlu brand newydd ar ei gyfer.
Cwestiynau
- Fel yr amlygwyd uchod, beth oedd y dangosyddion cadarnhaol a negyddol ar gyfer datblygu a lansio'r cynnyrch?
- A ydych yn meddwl y byddai'r rhan fwyaf o gwmnïau eraill wedi penderfynu bwrw ati i ddatblygu'r cynnyrch hwn, o ystyried y wybodaeth yn yr achos uchod?
- Pe na bai Gillette yn arwain y farchnad, a fydden nhw wedi gwneud yr un penderfyniad?
- Ac eithrio cost y datblygiad a'r lansiad, pa risgiau eraill oedd ynghlwm wrth lansio Mach 3?