Wythnos Roboteg Aberystwyth 2021

English

Wythnos Roboteg Aberystwyth 2021


Poster Wythnos Roboteg Aberystwyth. Mehefin 19-25 2021. Amserlen: Mehefin 19 - LabTraeth, Mehefin 21 - Sgwrs BCS, Mehefin 22 - Gweithdy Micro:Bit, Mehefin 23 - Gweithdy Tinkercad Arduino, Mehefin 24 - Gweithdy Robot Benchmark, Mehefin 25 - Sgwrs BCS

Gweithgareddau eleni:

Digwyddiadau Ar-lein

21 Mehefin, 6:30pm - Cyflwyniad gan gangen y Canolbarth o'r BCS: Datblygiadau mewn Roboteg a Gweledigaeth yn Aberystwyth

Bydd cyfres o anerchiadau byr gan aelodau o'r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth i'w dilyn gan drafodaeth banel.


Byddwn yn darparu dolen i'r cyflwyniad wedi'i recordio yn fuan ar gyfer y rhai a fethodd y digwyddiad byw.

22 Mehefin, 4:30pm - Introduction to Micro:Bit

Mae'r Micro:Bit yn gyfrifiadur rhaglenadwy a fforddiadwy sy'n llawn o dechnoleg. Mae wedi'i ddylunio ar gyfer cyw raglenwyr, o oedran ysgol gynradd i oedolion.

Yn ystod y gweithdy hwn, fe gewch gyflwyniad i rai o'r pethau anhygoel y gallwch eu gwneud â'r Micro:Bit a rhoddwn ni chi ar ben y ffordd i ddechrau bloc-raglennu mewn dosbarth ar-lein drwy raglen efelychu.

Cynhelir y sesiwn hon gan Tally Roberts, ein Swyddog Allgymorth yng Nghyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth


I'r rhai a'i methodd, dyma recordiad o'r Gweithdy Introduction to Micro:Bits ar YouTube.

23 Mehefin, 4:30pm - Learn TinkerCAD to build Smart Homes

Mae cartrefi yn dod yn fwyfwy 'deallus', o'r mesuryddion trydan clyfar i'r goleuadau y gellid eu rheoli o'ch ffôn. Yn rhan o'r digwyddiad hwn, fe edrychwn ar amryw synwyryddion er mwyn dylunio, adeiladu a rhaglennu cartref clyfar rhithwir.

Anelir y gweithdy hwn at bobl sydd â rhywfaint o brofiad o raglennu (lefel dechreuwyr i ganolradd), ac sydd â diddordeb mewn defnyddio'r sgil ar galedwedd a roboteg. Yn rhan o'r gweithdy hwn, defnyddiwn y rhaglen efelychu ar-lein 'TinkerCAD Circuits' i adeiladu a rhaglennu ein cartref clyfar.

Arduino C fydd yr iaith raglennu a ddefnyddir yn ystod y sesiwn hon.

Cynhelir y gweithdy hwn gan Tomos Fearn, sydd yn fyfyriwr roboteg yn astudio am ei PhD, o'r grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus ym Mhrifysgol Aberystwyth.


I'r rhai a'i methodd, dyma recordiad o'r Gweithdy TinkerCAD for Smart Homes ar YouTube.

24 Mehefin, 4:30pm - Robot Programming Workshop

Yn rhan o'r digwyddiad hwn, fe edrychwn ar amryw robotiaid gwahanol a rhai o'r cymhlethdodau ychwanegol o ryngweithio â'r byd corfforol.

Anelir y gweithdy hwn at bobl sydd â rhywfaint o brofiad o raglennu ac sydd â diddordeb mewn defnyddio'r sgil ym maes roboteg. Yn rhan o'r gweithdy hwn, defnyddiwn y rhaglen efelychu ar-lein Robotbenchmark i edrych ar ystod o wahanol heriau.

Python fydd yr iaith raglennu a ddefnyddir yn ystod y sesiwn hon.

Cynhelir y gweithdy hwn gan y Dr Patricia Shaw o'r grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus ym Mhrifysgol Aberystwyth.


I'r rhai a'i methodd, dyma recordiad o'r Gweithdy Robot Programming ar YouTube.

25 Mehefin 6:30pm - Cyflwyniad gan gangen y Canolbarth o'r BCS: Oes angen dôs o gyfrifoldeb cymdeithasol ar Weddnewidiad Digidol?

Anerchiad gan Dr Ian Harris o Ysgol Fusnes Aberystwyth

Ymchwilio i Ddiwydiant 4.0 ac effaith trawsnewidiad digidol o berspectif gwyddoniaeth gymdeithasol gyda golwg ar gynhyrchiant, cyflogadwyedd (yn arbennig mewn waith lled-fedrus), egwyddorion busnes, a chymhariaeth o rhethreg yn erbyn realiti trawsnewidiad digidol.


Byddwn yn darparu dolen i'r cyflwyniad wedi'i recordio yn fuan ar gyfer y rhai a fethodd y digwyddiad byw.






LabTraeth:Aileoliad 2021

Diolch i bawb am wneud ein LabTraeth:Adleoliad 2021 yn llwyddiant mawr!

Holl staff a gwirfoddolwyr LabTraeth:Adleoliad 2021


Ffurflen Adborth ar gyfer LabTraeth:Aileoliad 2021


Gweithgareddau Ychwanegol