Pêl Rodli

English

Gwnewch eich gêm Pêl Rodli eich hun yn Scratch

Dyma arweiniad cam wrth gam i wneud gêm pêl rodli (sef paddle ball game yn Saesneg) yn Scratch. Gallwch fynd ati i gwblhau'r heriau (os ydych yn brofiadol iawn), ceisio gwneud yr heriau drwy ddefnyddio'r awgrymiadau (defnyddwyr canolradd), neu ddefnyddio'r tiwtorialau fideo (dechreuwyr).

Dechrau arni

Rydych angen meddalwedd Scratch ar gyfer y gweithdy hwn. Mae hwn ar gael am ddim yn eich porwr neu fel rhaglen/cymhwysiad bwrdd gwaith. I gael gwybodaeth am y meddalwedd a'r wybodaeth berthnasol, ewch i scratch.mit.edu

Os ydych yn newydd i Scratch, byddem yn eich cynghori i edrych ar y gweithdy gêm ofod sylfaenol yn gyntaf.

Lanlwythwch ffeil Scratch newydd a dilëwch y corlun (sprite) cath rhagosodedig er mwyn rhoi prosiect cwbl wag i chi cyn dechrau ar yr heriau.

Strwythur Gêm Sylfaenol

Y nod yn rhan gyntaf yr heriau yw eich helpu i ail-greu strwythur gêm sylfaenol fel y dangosir isod.

Dewiswch gyflymder a gwasgwch y bylchwr (spacebar) i ddechrau'r demo.

Her 1: Bownsio pêl

Gwnewch gorlun pêl a fydd yn bownsio i fyny ac i lawr y sgrin yn gyson pan fyddwch yn pwyso ar y bylchwr.

  1. Rhaid gosod y bloc dechrau (starter) i'r bysell 'bylchwr' (spacebar).

  2. Bydd yn rhaid i chi nodi pa gyfeiriad er mwyn i'r bêl deithio ar i fyny yn gyntaf

  3. Chwiliwch am floc a fydd yn 'bownsio' y bêl oddi ar yr ochrau yn hytrach na gwrthdaro yn eu herbyn

  4. Gwnewch yn siŵr fod y bêl yn teithio/symud drwy'r amser

Isod mae'r blociau sgript angenrheidiol (yn yr un drefn â dewislen Scratch - ond bydd yn dal angen i chi feddwl sut i'w cysylltu). I gael gweld y sgript gyflawn, gweler y tiwtorial fideo gyferbyn.

Her 2: Gwneud padl

Dewch i greu padl sy'n teithio i'r chwith ac i'r dde, yn dilyn y llygoden, yn ymyl gwaelod yn sgrin

  1. Bydd yn rhaid i chi gael gwerth penodol ar gyfer yr 'y' (y safle fyny/lawr)

  2. Mae newidyn 'x llygoden', lle mai 'x' yw'r safle chwith/dde...

  3. Efallai y bydd angen i chi hefyd stopio unrhyw gylchdroi gan y padl hefyd

Isod mae'r blociau sgript sydd eu hangen (yn yr un drefn â dewislen Scratch - ond bydd yn dal angen i chi feddwl sut i'w cysylltu). I gael gweld y sgript gyflawn, gweler y tiwtorial fideo gyferbyn.

Bloc sgript ar gyfer symud

Bloc sgript i stopio'r cylchdroi

Her 3: Rhyngweithio rhwng y bêl a'r padl

Rhaglennu'r bêl i 'fownsio' oddi ar y padl

  1. Rhaid i'r bêl synhwyro cyswllt â'r padl

  2. Mae'r ateb mwyaf syml yn gofyn am newid cyfeiriad addas wrth gael cyswllt (mae 190 yn gweithio'n dda)

  3. I gael bownsio mwy realistig, gweler yr adran ymestyn.

Bydd angen i chi ychwanegu'r blociau cod isod i sgript y bêl

Her 4: Adeiladu brics

Mae'r gêm angen brics sy'n diflannu wrth gael eu taro gan y bêl

  1. Dechreuwch drwy sgriptio un fricsen cyn dyblygu

  2. Bydd angen i chi ddefnyddio blociau cod 'dangos' a 'cuddio'.

Bydd angen i chi roi'r blociau cod isod at ei gilydd i lunio'r sgript ar gyfer bricsen

Her 5: Sgorio

Cyflwynwch system sgorio sy'n codi bob tro y mae bricsen yn cael ei 'dinistrio'. Defnyddiwch hwn hefyd i bennu diwedd y gêm unwaith y bydd yr holl flociau wedi'u dinistrio.

  1. Bydd yn rhaid i chi greu newidyn ar gyfer 'sgôr'

  2. Gwnewch yn siŵr ei fod yn codi bob tro y caiff bricsen ei dinistrio

  3. Gosodwch sgôr uchaf sy'n gorffen y gêm pan gaiff y fricsen olaf ei dinistrio

Her 6: Amrywio cyflymder y bêl

Rydym angen llithrydd newidyn (variable slider) i osod cyflymder y bêl ar gyfer y gêm.

  1. De-gliciwch y newidyn ar y llwyfan i gael yr opsiynau

  2. Gwnewch yn siŵr wedyn fod y ffigwr hwn yn bwydo i sgript y bêl

Bydd angen i chi ddefnyddio'r blociau isod i gwblhau'r her hon.

Her 7: Bywydau

Dylai'r chwaraewr gael 3 bywyd. Mae angen dangos y rhain yn y gornel chwith isaf a dylid colli un bywyd bob tro mae'r bêl yn taro gwaelod y sgrin. Dylai'r gêm ddod i ben pan fydd pob bywyd wedi'i golli.

  1. Bydd angen i chi ddefnyddio corlun a gwisgoedd (costume) i ddangos faint o fywydau sydd ar ôl

  2. Bydd angen cael newidyn newydd 'Bywydau'

  3. Sut byddwch yn gwahaniaethu'r darn ar y gwaelod ar gyfer y rhaglen?

  4. Angen tynnu bywyd bob tro y mae'r bêl yn methu'r padl

  5. Efallai y bydd angen ychydig o oedi cyn ailddechrau i sicrhau mai dim ond un bywyd sy'n cael ei golli bob tro.

Cyffyrddiadau Olaf

Ar ôl cwblhau'r sgriptiau sylfaenol ar gyfer gêm pêl rodli sy'n gweithio, mae'n bryd ychwanegu ychydig o gyffyrddiadau i'w gorffen a'i phersonoli.

Dyma restr o bethau y gallech ystyried eu gwneud:

Gweithgareddau Ymestyn

Gwnewch i'r bêl fownsio yn fwy realistig oddi ar y padl a'r brics.

Yn her 3 gwnaethom i'r bêl 'fownsio' oddi ar y padl, y ffordd hawsaf i wneud hyn oedd newid y cyfeiriad yn ôl gwerth penodol. Nid oedd hyn yn ail-greu bownsio realistig fel yr un a welwyd pan oedd y bêl yn taro'r ymylon. Felly sut gallwn ni gywiro hyn?

I wneud hyn bydd angen i ni newid y symudiad 'troi' a rhoi bloc 'pwyntio i gyfeiriad' yn ei le. Yna gan ddefnyddio bloc gweithredwr, gosodwch y cyfeiriad i 180 - 'cyfeiriad'.

Y broblem nawr yw y bydd y bownsio yn realistig, ond bydd y bêl yn mynd yn sownd yn hawdd ar lwybr penodol. I gywiro hyn mae angen i ni newid y bloc fel ei fod yn darllen:

Pwyntio i gyfeiriad 180 - cyfeiriad + dewis ar hap -10 i 10


Ping-Pong

Nawr eich bod wedi cwblhau'r gweithdy hwn i greu gêm bêl rodli (paddle game) eich hun, dylech allu mynd â'r hyn rydych wedi'i ddysgu a'i ddefnyddio i greu eich fersiwn eich hun o 'Pong'.

Rhannwch eich gêm

Os ydych yn fodlon rhannu eich fersiwn terfynol gydag eraill, beth am lanlwytho eich prosiect i Scratch ac anfon y ddolen i nar25@aber.ac.uk