English

Sut i Greu Gêm Gofod Sylfaenol yn Scratch

Rydym wedi ceisio sicrhau bod ein gweithdy allgymorth arferol ar gaeol i bob oedran ar-lein. Rydym yn croesawu pob adborth i helpu i wella'r dudalen hon. Os byddwch yn mynd yn hollol sownd neu ddim yn gwybod pam nad yw eich rhaglen yn gweithio, anfonwch y ffeil at nar25@aber.ac.uk a byddwn yn cysylltu'n ôl.

Gallwch ddefnyddio Scratch mewn porwr neu lawrlwytho'r fersiwn bwrdd gwaith. Yn y llun isod mae trefn a chynllun cyffredinol Scratch. Rwyf wedi ychwanegu labeli ar gyfer rhannau allweddol y sgrin i'ch helpu chi i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas - chwiliwch am y testun sydd wedi'i uwcholeuo sy'n dangos pan ddefnyddir y labeli hyn.

Ciplun o ardal waith rhagosodedig Scratch. Mae'n dangos y ddewislen blociau i lawr yr ochr chwith, yr ardal sgriptiau yn y canol a'r llwyfan yn y dde uchaf gyda'r Rhestr Corluniau a chynnwys y llwyfan islaw.

Y peth cyntaf yw creu enw ffeil ar gyfer eich gêm. Gallwch wneud hyn drwy roi'r enw a ddewiswch yn y bocs sydd wedi'i uwcholeuo isod

Sgwâr coch yn dangos maes enw ffeil ar far offer Scratch

Nawr cymerwch ychydig o amser i edrych ar y 'blociau' yn y Ddewislen Blociau

Os edrychwch ar eich Llwyfan fe welwch lun cath. Gelwir y llun yn gorlun (sprite yn Saesneg). Gallwch hefyd ei weld yn y Rhestr Corluniau.


Beth am ddewis cymeriad sy'n fwy addas i'r Gofod ar gyfer y gêm hon? Bydd yn rhaid i ni ddileu'r gath o'n Rhestr Corluniau drwy ddefnyddio'r llun bin a ddangosir isod.

Eicon bin sbwriel yng nghornel dde uchaf y llun cath yn y rhestr corluniau

Nawr mae ein Llwyfan yn wag. Gallwn ychwanegu Corlun newydd drwy ddefnyddio'r eicon yn y Rhestr Corluniau fel y dangosir isod.

Y botwm ychwanegu corlun ar gornel chwith waelod y Rhestr Corluniau

Bydd hyn yn llwytho detholiad o Gorluniau gwahanol. Chwiliwch am y 'Retro Robot' a dewiswch hwnnw.

Dylai eich Llwyfan edrych fel hyn nawr...

Corlun robot ar y Llwyfan
Y llwyfan yw lle gallwch roi eich rhaglen ar brawf. Wrth ysgrifennu rhaglen, mae'n syniad da ei phrofi ar ôl pob newid sgript. Isod mae llun yn dangos sut i ddefnyddio'r llwyfan.

Ar ochr chwith uchaf y llwyfan, mae baner werdd i ddechrau rhaglen, ac octagon coch i'w stopio. Ar y dde uchaf mae opsiwn i ehangu'r llwyfan i sgrin lawn.
Lleoliad y bloc 'mynd i rywle arall ar hap' yn adran Symud y Ddewislen Blociau.

Mae'n bryd nawr gwneud ein sgript gyntaf. Rydyn ni am i'r robot fod yn brif gymeriad i ni a symud gyda'n llygoden o amgylch y sgrin.


Dewch o hyd i'r bloc 'Ewch i' (Go To) yn y Rhestr Blociau, fel y dangosir yn y llun ar y chwith, a newid y 'safle ar hap' (random position) i 'bwyntydd y llygoden' (mouse-pointer) ar y gwymplen.


Nawr cliciwch ar y bloc a'i lusgo i'r Ardal Sgriptiau.


Da iawn, rydych wedi creu eich llinell rhaglennu gyntaf ar gyfer y gêm hon.


Mae'r bloc sydd gennym nawr yn yr Ardal Sgriptiau yn dweud wrth y robot i fynd i ble mae'r llygoden ar y sgrin. Y broblem yw nad ydym wedi dweud wrtho pryd na pha mor aml. Rydyn ni am i'r robot ddilyn y llygoden drwy gydol y gêm gyfan. I wneud hyn mae angen i ni roi'r bloc hwn y tu mewn i 'ddolen para am byth' (forever loop). Mae hyn yn golygu y bydd y gorchymyn i fynd at bwyntydd y llygoden yn ailadrodd 'am byth'.

Sgript gyfan bloc 'am byth' gyda bloc 'mynd at bwyntydd y llygoden' wedi'i roi ynddo.

I wneud hyn, bydd angen i chi ddod o hyd i'r bloc am byth yn y Rhestr Blociau a'i lusgo i'r Ardal Sgriptiau. Yna gallwn symud y blociau gyda'i gilydd fel jig-so felly mae'r gorchymyn 'mynd i' y tu mewn i'r 'ddolen am byth'. Gallwch weld hyn yn y llun ar y dde.


Dydi'r sgript ddim wedi gorffen yn llwyr. Nawr mae angen i ni ddweud wrtho pryd i ddechrau'r rhan hon o'r rhaglen. Rydyn ni am iddo ddechrau o'r cychwyn cyntaf, a dyna pryd rydyn ni'n clicio eicon y faner werdd ar y Llwyfan. Ar gyfer hyn mae angen i ni ddod o hyd i'r bloc sy'n dweud wrtho 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio', a'i llusgo i ben ein sgript.

Ar ôl cwblhau sgript, dylem nawr brofi ein rhaglen. Gallwn wneud hyn yn y Llwyfan trwy glicio ar y faner werdd. I stopio'r rhaglen, cliciwch ar yr eicon coch wrth ymyl y faner. Cofiwch y gallwch chi hefyd wneud y llwyfan i lenwi'r sgrin i gyd er mwyn gweld y symudiad yn iawn.

Ydi eich robot yn dilyn y llygoden i ble bynnag rydych chi'n ei symud hi? Os ydi, yna gweithiodd y sgript. Os nac ydi, edrychwch eto ar y cyfarwyddiadau yng Ngham 3.

Awgrym - Dylai fod gennych dri bloc wedi dod at ei gilydd fel jig-so yn eich sgript.


Os ydych chi wir, wir, wir yn sownd... Dyma sut i ddatrys Cam 3.

Rydyn ni nawr angen cefndir ar gyfer ein gêm. Rydyn ni'n gwneud hyn mewn ffordd debyg iawn i ychwanegu corlun newydd. Mae eicon ychwanegu cefndir ar waelod Cynnwys y Llwyfan. Gweler y llun isod.

Yr eicon 'ychwanegu cefndir' ar y dde ar y gornel isaf, ar waelod ardal Cynnwys y Llwyfan.

Dewiswch ddelwedd wyneb y lleuad o'r rhestr. Nawr dylai eich Llwyfan edrych rhywbeth fel hyn:

Y llwyfan gyda chefndir llun lleuad y tu ôl i gorlun y robot

Cofiwch, os ydych chi wedi rhedeg y rhaglen, bydd y robot yn y safle olaf i chi stopio'r rhaglen, gan olygu y bydd fwy na thebyg rhyw hanner oddi ar y sgrin yn y gornel chwith uchaf. Gallwch chi symud corlun y robot i leoliad gwahanol ar y Llwyfan trwy glicio a llusgo.

Yn y cam hwn byddwn yn ychwanegu corlun neu eitem arall i'r gêm.


Oherwydd ei fod ar y lleuad does dim llawer o bethau i'r robot ei gasglu, felly byddwn yn trefnu iddo godi creigiau i'w hastudio gan wyddonwyr ar y Ddaear.


I wneud hyn mae angen i ni ychwanegu corlun newydd fel y gwnaethom yng Ngham 2 ar gyfer ein robot, y tro hwn byddwn yn dewis creigiau o'r rhestr.


Dylech nawr fedru gweld eich robot a'ch pentwr o greigiau ar eich Llwyfan


Beth ydych chi'n meddwl fydd yn digwydd os byddwn yn rhedeg y rhaglen nawr?

Beth am i ni redeg y rhaglen i weld beth ddigwyddith...


Dylai eich robot fod yn dal yn symud o gwmpas gyda phwyntydd y llygoden.


Dydi'r graig ddim yn gwneud dim byd.


Mae'r robot yn symud drwy'r graig fel petai hi ddim yno.

Rydyn ni eisiau i'r gêm wneud rhywbeth pan fydd y robot yn cyffwrdd â'r graig, yn yr adran hon byddwn ni'n edrych ar sut i wneud hyn.

Ydych chi wedi sylwi bod eich sgript wedi diflannu pan wnaethon ni ychwanegu'r Creigiau at ein rhaglen?

Mae hyn oherwydd bod gan bob eitem neu corlun ei Ardal Sgriptiau ei hun. Os cliciwch ar gorlun y Robot yn y Rhestr Corluniau bydd y sgript yn ailymddangos. Mae yna hefyd lun bach yng nghornel dde uchaf yr Ardal Sgriptiau sy'n dangos pa eitem rydyn ni'n edrych arni.

Nawr dewiswch gorlun y Creigiau i agor ei Ardal Sgriptiau sy'n wag. Rydyn ni eisiau dweud wrth y creigiau i wneud rhywbeth pan fydd y robot yn eu cyffwrdd.

I ddechrau arni rhaid i chi osod y sgript isod at ei gilydd.

Bloc sgriptiau yn dechrau gyda bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio', wedi'i ddilyn gan floc 'am byth' sydd â bloc 'aros tan' wedi'i gynnwys ynddo. Mae'r hecsagon i gynrychioli 'beth y mae angen i'r gorchymyn aros tan' yn wag.

Ydych chi'n gallu gweld beth sydd ar goll? Mae yna ran dywyll heb unrhyw gyfarwyddyd ynghylch beth y mae angen i'r creigiau aros amdano. Edrychwch i weld a allwch chi ddod o hyd i'r bloc cywir i fynd y tu mewn iddo a fydd yn dweud wrth y creigiau i aros hyd nes cyffwrdd â Retro Robot ('wait until touching Retro Robot').

Dydyn ni ddim yn gallu profi i weld a wnaethoch ei gael yn iawn eto, oherwydd dydyn ni ddim eto wedi dweud wrth y creigiau beth i'w wneud pan fyddant yn cyffwrdd â'r robot. Fe ddechreuwn ni trwy ddweud wrthyn nhw am wneud sŵn popian. Dewch o hyd i'r bloc sy'n dweud 'chwarae sŵn popian nes ei fod wedi gorffen' (play sound pop until done) a'i roi y tu mewn i'r ddolen am byth o dan y bloc 'aros tan' (wait until).

Nawr mae gennym set gyflawn o gyfarwyddiadau i'r graig eu dilyn. Mae'n bryd ei brofi a gweld a wnaethoch chi e'n iawn.

Beth sy'n digwydd pan ydych chi'n rhedeg y rhaglen nawr?

Beth ddylai ddigwydd?

- Dylai'r robot symud gyda'r llygoden

- Dylai'r graig sefyll yn llonydd

- Pan mae'r robot yn cyffwrdd â'r graig mae'n gwneud sŵn popian nes eich bod yn symud y robot i ffwrdd


Problemau posibl:

Dydi'r robot ddim yn symud - Gwnewch yn siwr fod gennych un sgript yn y corlun robot ac un yn y corlun creigiau.

Mae'r graig yn symud ond nid y robot - gwnewch yn siwr fod gan bob eitem y sgript gywir

Dim sŵn - ydi eich sain ymlaen?

Dim ond yn popian unwaith - Gwnewch yn siwr fod eich sgript i'r creigiau yn dweud chwarae'r sŵn 'pop' nes ei fod wedi gorffen (until done)


Os ydych wir yn sownd, edrychwch yma am yr ateb i Gam 6.

Nawr mae angen i ni drefnu bod y robot yn 'codi' neu'n casglu'r creigiau. Un ffordd y gallwn wneud hyn yw iddyn nhw neidio i leoliad newydd pan fydd y robot yn eu cyffwrdd. Mae hyn yn golygu y gall y chwaraewr gwrso'r creigiau a rhedeg ar eu holau o amgylch y sgrin.

I wneud hyn mae angen i ni ddod o hyd i floc y gallwn ei roi yn sgript corlun y graig, y tu mewn i'r 'ddolen am byth' (forever loop) sydd i'w ganfod o dan y gorchymyn chwarae sŵn, sef yr un sy'n dweud wrth y graig i 'fynd i rywle arall ar hap' ('go to random position')

Gan ein bod wedi gwneud newid newydd i'r sgript ar gyfer y rhaglen dylem ei phrofi i sicrhau ei bod yn gweithio.

Nawr dylai'r graig wneud un sŵn pop pan fydd y robot yn ei chyffwrdd ac yna neidio i leoliad newydd. Dylai hyn gael ei ailadrodd pryd bynnag y bydd y robot yn cyffwrdd â'r graig.

Os na fydd yn gwneud hyn, edrychwch eto ar y cyfarwyddiadau yng Ngham 7.

Os ydych yn dal yn cael problemau yna chwiliwch am yr ateb ar gyfer Cam 7.

Ar hyn o bryd mae'n edrych fel petai'r creigiau yn bod yn gas wrth y robot ac yn rhedeg i ffwrdd o hyd. Yn yr adran Newidynnau yn y Ddewislen Blociau, os oes tic ar y bloc 'sgoriau' mae hyn yn golygu bod modd ei weld ar y Llwyfan. Yn lle hynny, rydyn ni am wneud iddi edrych fel petai'r robot yn eu casglu. Un ffordd o wneud hyn yw ychwanegu system sgorio i ddweud wrth y chwaraewr sawl gwaith maen nhw wedi casglu'r creigiau.

Y broblem yw, ble allwn ni ddod o hyd i floc ar gyfer sgorio?

Er mwyn gallu olrhain a chadw gwybodaeth mewn gêm - pethau fel sgôr, rhestr eiddo neu nifer y bywydau - yna mae angen i ni gael newidynnau. Mae'r rhain yn werthoedd penodol y gallwn eu newid.

I greu newidyn ar gyfer sgorio mae angen i ni ddod o hyd i'r opsiwn 'Gwneud Newidyn' ('Make a Variable') ar y Ddewislen Blociau, cliciwch arno a'i enwi yn 'Sgôr'.

Dylech fedru gweld y bloc newydd hwn yn y Ddewislen Blociau, fel y dangosir yn y llun. Mae'r tic yn y bocs nesaf ato yn rhoi'r bocs sgôr ar y Llwyfan, os cliciwch i dynnu'r tic i ffwrdd (dad-dicio) yna nid yw'r chwaraewr yn gallu gweld y sgôr bellach. Rydyn ni eisiau i'r chwaraewr wybod bod sgôr felly gwnewch yn siŵr bod y bocs hwn wedi'i dicio.

Nawr mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i ddweud wrth y rhaglen sut i gadw sgôr.

Wrth i ni ennill pwyntiau trwy gyffwrdd â'r creigiau byddwn yn ychwanegu'r cyfarwyddiadau sgorio at sgript y creigiau. Er mwyn sicrhau bod gennych yr Ardal Sgriptiau gywir ar agor, gwnewch yn siwr mai'r llun sydd yn y gornel dde uchaf yw llun gwan o gorlun y creigiau.

Yn gyntaf mae angen i ni ddweud wrth y rhaglen y dylai'r sgôr fod yn sero ar ddechrau'r gêm drwy ddefnyddio'r bloc sy'n darllen 'gosod y sgôr ar 0' ('set score to 0'). Yna, mae angen ail floc arnom sy'n dweud wrth y sgôr i godi 1 bob tro y bydd y graig yn cael ei chyffwrdd, sef bloc sy'n darllen 'codi'r sgôr bob yn 1' ('change score by 1').

Ewch ati i weld a allwch chi ddod o hyd i'r blociau cywir a'u rhoi yn y lleoedd iawn yn y sgript.

Dewch i ni weld a ddaethoch o hyd i'r bloc cywir a'u rhoi yn y lleoedd iawn. Rhedwch y rhaglen yn y Llwyfan, chwaraewch â hi ac edrychwch beth sy'n digwydd i'r sgôr. Yna stopiwch y rhaglen a'i hailgychwyn i sicrhau bod y sgôr yn dechrau ar 0 eto.

Dylai'r sgôr godi un pwynt bob tro yr ydych chi'n cyffwrdd â chraig, a dylai ailosod i sero pan fyddwch chi'n dechrau gêm newydd.

Peidiwch â phoeni os na fydd yn gweithio y tro cyntaf, yr eildro, neu hyd yn oed y trydydd tro gan fod hyn yn dipyn o her.

Mae'r sgript gywir wedi'i dangos yn y llun ar y dde.

Mae'r sgript yn dechrau gyda'r bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio' wedi'i gysylltu â bloc 'gosod y sgôr ar 0' cyn cysylltu â bloc 'am byth' ac ynddo flociau: 'aros nes cyffwrdd?', 'newid y Sgôr bob yn 1',  'chwarae sŵn popian nes ei fod wedi gorffen' a 'mynd i rywle arall ar hap' (yn y drefn honno).

Sylwch fod y gorchymyn i osod y sgôr i sero ddim y tu mewn i'r ddolen am byth. Petai yn y fan honno, byddai'r gêm yn ailosod y sgôr i sero o hyd am byth, dim ond unwaith rydyn ni eisiau iddi wneud hynny, sef ar y dechrau un.

Mae'r gorchymyn newid sgôr wedyn y tu mewn i'r ddolen felly mae'n digwydd bob tro mae'r robot yn ei gyffwrdd.

Mae'n bryd gwneud y gêm yn fwy heriol, gadewch i ni ddod ag NPC i mewn - Cymeriad na reolir gan y Chwaraewr (Non-Player Character) - i gystadlu ag ef.

Mae hyn yn golygu ychwanegu corlun newydd. Y tro hwn byddwch chi'n dewis pwy ddylai'ch gelyn fod trwy bigo'r corlun. Sicrhewch ei fod yn wahanol i'r creigiau a'r robot retro neu gallai'r gêm ddod yn ddryslyd iawn. Os oes angen nodyn atgoffa arnoch chi ar sut i ychwanegu corlun, ewch i Gam 2 eto.

Ar ôl i chi ddewis eich cymeriad arall (NPC) mae angen i ni roi sgript iddo ar gyfer beth i'w wneud. Ar y dde mae sgript sylfaenol i chi ei hychwanegu at yr Ardal Sgriptiau gwag ar gyfer corlun eich NPC. Mae'n cyfarwyddo ein cymeriad newydd i symud tuag at y creigiau 10 cam ar y tro.

Mae'r sgript yn dechrau gyda'r 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio' ac yna'n cysylltu â bloc 'am byth' sydd yn cynnwys bloc 'pwyntio tuag at Greigiau' a bloc 'symud 10 cam' (yn y drefn honno).

Beth am i ni brofi ein sgript newydd drwy redeg y rhaglen.

O NA! Beth sy'n digwydd?

Dylai'r rhaglen yn dal fod yn gadael i robot y chwaraewr godi'r creigiau a chael sgôr heb unrhyw broblem gan fod y gelyn yn cwrso a rhedeg ac yn cwympo dros y creigiau wrth beidio ag aros y ffordd iawn i fyny.

Pan fydd rhaglen yn dechrau gwneud rhywbeth nad oeddech chi'n ei ddisgwyl, rydyn ni'n galw hyn yn 'byg'. Dadfygio (debugging) yw'r enw ar y cywiro y mae'n rhaid i ni ei wneud i ddatrys y problemau.

Y 'byg' cyntaf y byddwn yn ei drwsio yw bod yr NPC yn gwrthod aros y ffordd iawn fyny wrth iddo symud o gwmpas.

Mae hyn yn eithaf hawdd i'w gywiro, y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw ychwanegu bloc sy'n darllen 'gosod y ffordd mae'n cylchdroi...' ('set rotation style...'). Yna dewiswch 'peidio cylchdroi' ('don't rotate') yn y gwymplen. Ychwanegwch y bloc hwn at sgript y NPC - y tu mewn i'r 'ddolen am byth' er mwyn iddo beidio byth â throelli.

Er mwyn datrys yr ail broblem bod yr NPC yn hofran dros y creigiau yn gwneud dim i atal y chwaraewr, mae angen i ni wneud i'r NPC ddwyn y creigiau.

Dyma amser da i ddweud wrthoch chi fod corlun yn gallu cael mwy nag un sgript o gyfarwyddiadau. Gan fod angen i'r graig ymateb nawr pan fydd y gelyn yn ei chyffwrdd mae angen i ni greu ail sgript yng nghorlun y Creigiau.

Dylai'r sgript newydd ddechrau gyda'r bloc 'pan fydd (baner werdd) wedi'i chlicio' ('When (green flag) Clicked'), yna dolen am byth gyda blociau 'aros nes cyffwrdd (corlun NPC)' ('wait until touching (NPC sprite)') a 'mynd i rywle arall ar hap' ('go to random position') y tu mewn iddo.

Ar ôl cyflwyno sgript newydd i'n rhaglen mae angen i ni ei phrofi eto, felly rhedwch y rhaglen i ni weld beth sy'n digwydd.

Dylai'r NPC nawr fod yn dwyn y creigiau os yw'n cyrraedd yno gyntaf, mae hi nawr yn ras i gasglu pob craig.

Os yw problemau yn parhau gyda'ch rhaglen a dydych chi ddim yn gallu eu trwsio neu eich bod yn sownd, yna dyma'r ateb ar gyfer sgript y creigiau ac ateb ar gyfer Sgript yr NPC.

Nawr mae angen i ni ddweud wrth y rhaglen pryd i stopio yn hytrach na mynd ymlaen heb unrhyw her go iawn am byth. I wneud hyn mae angen i ni stopio'r gêm pan fydd y NPC yn cyffwrdd â'r chwaraewr. Wedyn y gêm fydd casglu'r creigiau wrth geisio osgoi'r NPC.

I wneud hyn byddwn yn ychwanegu sgript newydd at gorlun y chwaraewr (sef y Retro Robot). Bydd angen i chi ddechrau gyda'r un bloc 'pan fydd (baner werdd) wedi'i chlicio' sydd ynghlwm wrth 'ddolen am byth'. Y tu mewn i'r 'ddolen am byth' honno mae angen i ni ychwanegu cyfarwyddyd i aros nes cyffwrdd (NPC) a bloc i ddweud wrth y rhaglen i 'stopio popeth' pan fydd hyn yn digwydd.

A allwch chi ddod o hyd i'r holl flociau hyn a'u rhoi at ei gilydd yn gywir? Os ydych chi'n cael trafferth cael hyn i weithio, yna edrychwch ar yr ateb ar gyfer Cam 11.

Y peth olaf y gallem ei wneud yw ceisio gwneud y corluniau yn ein gêm yn llai o faint er mwyn rhoi mwy o le i'r chwaraewyr symud o gwmpas. Rwyf wedi gwneud hyn ar gyfer sgript y Retro Robot sy'n cael ei ddangos yn yr ateb ar gyfer Cam 11. Mae angen i chi gopïo ac yna ailadrodd yn un o'r sgriptiau yn unig ar gyfer pob un o'r corluniau. Does dim ots pa un o'r sgriptiau gan fod y cyfarwyddyd yn mynd rhwng y man cychwyn a'r ddolen am byth.

Mae'ch gêm nawr yn barod i'w chwarae. Chwaraewch i weld pwy all gael y sgôr uchaf. Mae croeso i chi edrych ar yr adran nesaf i gael syniadau ar sut i wella ac/neu sut i bersonoli'ch gêm. Chi sydd piau hi cofiwch! Mwynhewch!

Isod, rwyf wedi ychwanegu rhestr o syniadau ynghylch sut y gallech bersonoli'ch gêm a pharhau i'w datblygu

Rhagor o effeithiau sain...

Cerddoriaeth gefndir...

Corluniau gwahanol...

Rhagor o gorluniau...

Cefndir gwahanol...

Sgrin dechrau...

Neges Gêm Drosodd...

Newid pa mor gyflym y mae'r NPC yn symud...

Ychwanegu sgôr Cyfrifiadur...

Byddem wrth ein bodd yn gweld beth rydych wedi'i greu wrth ddefnyddio'r gweithdy hwn a byddem wrth ein boddau petaech yn anfon eich ffeiliau Scratch atom i nar25@aber.ac.uk

Gobeithiwn rannu eich prosiectau ag eraill

Gêm Gofod gan Malay
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r gweithdy hwn, e-bostiwch nar25@aber.ac.uk a byddaf yn postio'r cwestiwn a'r ateb ar y rhan hon o'r dudalen.