Trefn Deallusrwydd

English

A yw Cyfrifiadur yn gallu bod yn Ddeallus?

Rydym yn cynnig cyflwyniad rhyngweithiol i ysgolion uwchradd (i unrhyw grŵp blwyddyn, a phob grŵp blwyddyn) ar y drafodaeth ynghylch a yw Deallusrwydd Artiffisial yn bosibl ar hyn o bryd, neu a fydd yn bosibl yn y dyfodol.

Ceir sesiwn flasu fer isod. Recordiwyd y deunydd hwn yn wreiddiol ar gyfer Cynhadledd Seren i ddisgyblion chweched dosbarth. Yn anffodus, dim ond yn Saesneg y mae'r fideo ar gael ar hyn o bryd.

Cyflwyniad ar Ddeallusrwydd Artiffisial

Trefn Deallusrwydd

Gweithgaredd didoli cardiau yw hwn a ddefnyddir ar y cyd â'n sgwrs/gweithdy ar Ddeallusrwydd Artiffisial.

Nod y gweithgaredd yw ystyried ystyr deallusrwydd drwy geisio penderfynu ym mha drefn y dylid gosod y delweddau isod.

Does dim atebion cywir nac anghywir yn yr ymarfer hwn. Mae'n well ei wneud gydag eraill (aelodau teulu/ffrindiau/cyd-ddisgyblion/fyfyrwyr) er mwyn annog trafodaeth.

Mae'r delweddau isod yn dod o gyfres o gardiau a gynhyrchwyd fel rhan o weithdy TechnoCamps

A dog
A dolphin
A washing machine
A sheep
bacteria
A monkey
A rock
A human
A self-driving car that talks
A self-driving car
A kitten
Wall-E
A horse
Autopilot on a plane
A smart phone
An ant
A chess playing computer
A sheepdog
A pilotless fighter drone
A bee
A book
A DIY robot
An elephant
A hive of bees
A computer that makes art
A tree
Dancing Robots
A flea
A non-player character (NPC) in a computer game
A Venus Flytrap