Cwis Robot

English

Cwis Gwybodaeth Gyffredinol: Robotiaid

Cafodd y cwis hwn ei ddefnyddio gyntaf fel ein 'cwis tafarn' ar-lein ar gyfer Wythnos Roboteg 2020. Mae'n cynnwys cwestiynau am robotiaid mewn llenyddiaeth, ffilm a realiti. Dyma weithgaredd grŵp hwyliog a heriol.

Rownd Un: Robotiaid Ffuglennol mewn Ffilmiau

Enwch y Robot a'r Ffilm

Isod mae llun 6 robot gwahanol o ffilmiau amrywiol. Rydym yn chwilio am enw'r robot a theitl y ffilm yr ymddangosodd ynddo.

Uned robot gwyn llyfn sy'n hofran ac mae ganddo freichiau crwm tebyg i adenydd a phen sydd â sgrin ddu wedi'i goleuo â dau lygad glas.
Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:
Robot sffêr lliw du ac arian, ac mae ganddo ben sy'n aros ar y top wrth i'r corff crwn rowlio ar draws y tir.
Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:
Robot ar ffurf ddynol sydd â 'chroen'/casyn gwyn a llygaid glas.
Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:
Robot milwrol sydd â thraciau i symud arnynt ac sydd â sawl system arfau. Mae ganddo ben hirsgwar sy'n cynnwys dau lygad camera crwn, stribed o olau i'r geg a fflapiau sy'n gweithredu fel aeliau ar gyfer mynegiant wyneb amrywiol.
Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:
Robot gwyn ar ffurf ddynol, gyda'i gymalau yn ddu. Mae'r pen yn sffêr mawr sy'n anghymesur â gweddill ei gorff. Mae ganddo lygaid sydd bob amser yn edrych yn drist.
Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:
Robot arall sy'n seiliedig ar y corff dynol, er bod gan y corff hwn gorff sfferig ac mae wedi'i lunio o blatiau efydd wedi'u bolltio at ei gilydd. Mae'n edrych fel robot o oes Agerstalwm Fictoraidd, er i'r ffilm y mae ynddi gael ei ffilmio ymhell cyn bathu'r term Agerstalwm (Steampunk).
Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:

Emoji Teitlau Ffilm

Rydym wedi defnyddio cyfuniadau emoji i gynrychioli teitlau ffilmiau gwahanol. Beth ydyn nhw?

Enghraifft: Emoji seren wedi'i ddilyn gan emoji cleddyf wedi'u croesi= Star Wars

Emoji robot wedi'i ddilyn gan emoji plismon
Teitl y Ffilm:
Emoji cyllell wedi'i ddilyn gan emoji person yn rhedeg
Teitl y Ffilm:
Saeth ar i fyny wedi'i dilyn gan emoji archarwr wedi'i ddilyn gan emoji y rhif 6
Teitl y Ffilm:
Emoji'r haul, wedi'i ddilyn gan emoji'r ddaear, wedi'i ddilyn gan emoji dyn yn sefyll, wedi'i ddilyn gan emoji arwydd rhybudd coch wythonglog
Teitl y Ffilm:
Dau emoji cacen pen-blwydd wedi'u dilyn gan emoji'r rhif 100 ac yna emoji hen ddyn
Teitl y Ffilm:
Emoji 'byddwch yn ddistaw' wedi'i ddilyn gan emoji person yn rhedeg
Teitl y Ffilm:

Dyfyniadau o Ffilmiau

Yma, rydym yn chwilio am enw'r robot dan sylw, ac enw'r ffilm y mae'r dyfyniad ynddi.

"He's a robot from the future. Living tissue over a metal skeleton"

Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:

"Half the people here wanna reprogram you. The other half wanna put a hole in your head"

Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:

"You're made of metal, but you have feelings, and you think about things, and that means you have a soul. And souls don't die."

Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:

"What actually happened was we were working on him one day and suddenly he is struck by lightning. And, from this moment on, he's having a mind of his own. So, the government tried to destroy him so he ran away."

Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:

"I may be synthetic, but I'm not stupid."

Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:

"I am only a machine. So I can not be sorry or happy, no matter what happens."

Enw'r Robot:
Teitl y Ffilm:

Rownd Dau: Robotiaid Ffuglennol mewn Llenyddiaeth

Pwy wnaeth ei ysgrifennu?

Yn yr adran hon, rydym yn chwilio am yr awdur a theitl y stori berthnasol.

Daeth tair rheol roboteg (three laws of robotics) o'r stori...

Enw'r Awdur:
Teitl y Stori Gwreiddiol

Daeth y ffilm 'Blade Runner' o...

Enw'r Awdur:
Teitl y Llyfr Gwreiddiol

Daeth Zat (y robot o blaned Mawrth) o'r llyfr...

Enw'r Awdur:
Teitl y Llyfr Gwreiddiol

Tua 1972 ysgrifennwyd am robotiaid hardd, ufudd yn cymryd lle merched...

Enw'r Awdur:
Teitl y Llyfr Gwreiddiol

"I'm sorry, Dave. I'm afraid I can't do that." Mae hwn yn ddyfyniad o...

Enw'r Awdur:
Teitl y Llyfr Gwreiddiol

Cwestiwn bonws

Pa fasnachfraint (franchise) a roddodd Ultron inni a pha arch-arwr llyfrau comig a oedd wedi'i greu yn wreiddiol?

Masnachfraint:
Arch-arwr:

Rownd Tri: Robotiaid go iawn

Enwch y Robot

Enwch y robot sydd ym mhob llun:

Robot gwyn mawr ar ffurf ddynol ond gyda phen tedi bêr yn cario claf yn ei freichiau hir
Enw'r Robot:
Ci robot arian sydd â sgrin ddu i ddangos mynegiant wyneb
Enw'r Robot:
Stwcyn o robot ar ffurf ddynol sy'n gallu neidio, rhedeg a dringo grisiau.
Enw'r Robot:
Robot ar ffurf ddynol sydd wedi'i ddylunio i efelychu plentyn ifanc o ran symudiad ac ymddangosiad. Mae wedi'i osod ar ffrâm gan fod y traed yn rhy fach i gerdded arnynt.
Enw'r Robot:
Robot melyn a du ar bedair coes sy'n gallu tramwyo ar bob math o dir.
Enw'r Robot:
Robot llwyd anferth durblatiog sydd â KR 01 wedi'i baentio ar un ysgwydd. Mae'n llawer talach na'r bobl o'i gwmpas yn achlysur ei ddadorchuddio.
Enw'r Robot:

Gwir neu anwir

Ar gyfer y rhan hon, rhaid i chi nodi a yw'r datganiadau isod yn wir neu'n gau

Gellir ystyried bod peiriant golchi dillad modern yn robot

Gwir
Gau

Yn ôl y sôn cafodd y robot cyntaf ei adeiladu yn 1495

Gwir
Gau

Daw'r gair robot o'r gair Tsieceg am 'lafur gorfodol'

Gwir
Gau

Roedd robotiaid ym mytholeg y Groegiaid

Gwir
Gau

Does neb erioed wedi cael ei ladd gan robot

Gwir
Gau

Roedd robotiaid ar gyfres wreiddiol Robot Wars

Gwir
Gau

Torri Record

Mae'r cwestiynau isod yn ymwneud â robotiaid yn curo recordiau byd Guinness (yn gywir ar adeg ysgrifennu hwn – Mehefin 2020) . Derbynnir atebion rhifau o fewn 5%.

Beth yw'r pellter pellaf y mae robot wedi'i deithio mewn byd arall? (mewn km)

Ateb:

RoboBee gan Harvard Microrobotics yw'r robot lleiaf ei faint ar dennyn sy'n hedfan – gan ei fesur mewn gronynnau reis, pa mor drwm ydyw?

Ateb:

Sawl metr o daldra yw MONONOFU, robot dynolffurf talaf y byd?

Ateb:

Yn 2016 sawl robot gafodd eu defnyddio i dorri record y byd am gydsymud gyda'i gilydd wrth ddawnsio am fwy na munud?

Ateb:

Sawl km oedd y daith hiraf ar y ddaear mewn cerbyd awtonomaidd, heb yrrwr?

Ateb:

Yn 2016 gosododd Sub1 Reloaded record y byd am y Robot cyflymaf i ddatrys Rubik, mewn faint o amser?

Ateb:

Robot Wars

Enwch y 'robotiaid' canlynol o gyfres deledu y BBC Robot Wars.

Un o robotiaid y tŷ. Mae ganddo swch eira ar y blaen a sgŵp tarw dur ar y cefn.
Enw:
Robot gwyn siâp lletem (wedge) ac mae ganddo streipiau du ar un pen a decalau ar batrwm sgwariau ar y pen arall.
Enw:
Robot du sydd â decalau neon gwyrdd, dwy olwyn felen fawr sy'n caniatáu iddo redeg y naill ffordd neu'r llall, a llafn sy'n troelli ar y blaen.
Enw:
Robot metal arian sgleiniog sy'n rhedeg ar 4 olwyn fach. Mae ganddo bigau ar draws rhannau'r injan yn ogystal â disg arian a du mawr sy'n troelli ac wedi'i ffitio â llafnau metel coch.
Enw:
Robot coch a melyn ar siâp lletem ac sydd â phwniwr er mwyn ymunioni a chodi ei hunan.
Enw:
Robot sydd â chrafanc/pig metelaidd mawr. Mae'n isel iawn at y tir, ac mae ganddo ramp sy'n cyrraedd gafael y pinsiwr a phedair olwyn las fach.
Enw:

Carioci Robotiaida

Mae'r rownd olaf hwyliog hon yn ceisio adnabod y robot/android/AI sy'n canu'r 5 gân ganlynol.

Cân 1:

Enw'r robot/android/AI sy'n canu:

Cân 2:

Enw'r robot/android/AI sy'n canu:

Cân 3:

Enw'r robot/android/AI sy'n canu:

Cân 4:

Enw'r robot/android/AI sy'n canu:

Cân 5:

Enw'r robot/android/AI sy'n canu: