Dyma weithgaredd a gynhaliwyd yn ystod Wythnosau Roboteg yn y gorffennol. Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, penderfynwyd ei roi ar lein er mwyn i bawb ei fwynhau.
Nod y gweithdy hwn yw ysbrydoli creadigrwydd wedi'i seilio ar thema roboteg, trwy annog pobl i greu eu modelau eu hunain o wahanol ddefnyddiau crefft.
Dyma rai syniadau a phatrymluniau i danio'ch dychymyg.
Cofiwch: Gall robotiaid fod o bob lliw a llun.
Gweler isod oriel o ymdrechion pobl a gobeithiwn ychwanegu lluniau o'ch creadigaethau chi ati.
Mae'r fideos hyn yn Saesneg
Anfonwch luniau o'ch modelau at roboticsweek@aber.ac.uk i'w cynnwys yn yr oriel ar-lein
Swyddog Allgymorth y Gyfadran: Natalie Roberts
E-bost: nar25@aber.ac.uk