Helfa Wyau Pasg

English

Helfa Wyau Pasg

Beth yw Wyau Pasg? Ymhle allwn ni ddod o hyd iddyn nhw, a sut?

Beth yw Wyau Pasg?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â'r Wyau Pasg siocled sydd ar gael - Ni allwch osgoi gweld pentyrrau ohonynt ym mhob siop fwyd ym Mhrydain, bron.

Nifer o wyau Pasg siocled gydag addurn aur

I rai, plisgyn wy wedi'i baentio'n wahanol liwiau a phatrymau yw Wy Pasg.

Rhes o blisgyn wyau wedi'u paentio

Ym maes cyfrifiadura, mae Wy Pasg yn nodwedd sy'n cael ei chuddio o fewn rhaglen/gêm/gweddalen.

Er enghraifft, faint ohonoch chi sydd wedi gweld y sgrin hon pan nad yw Google Chrome yn gweithio.

Tudalen 'No Internet' ddiofyn ar gyfer Google Chrome yn cynnwys dinosor picsel

Nawr, faint ohonoch chi oedd yn gwybod mai gêm i chi ei chwarae wrth aros i'r broblem gael ei datrys yw hon? Pwyswch ar y bylchwr i ddechrau'r gêm. Y nod yw mynd â'r dinosor mor bell â phosib, gan osgoi'r holl rwystrau trwy ddefnyddio'r bylchwr i neidio drostynt.

Eisiau rhoi cynnig arni, ond ddim yn cael problemau â'r we? Rhowch chrome://dino yn eich bar chwilio Google Chrome.

Mae Google yn cuddio nifer o wahanol gemau o fewn y porwr - gallwch chwilio am rai yn y bar chwilio Google (e.e. Pacman, Solitaire, Minesweeper, Tic Tac Toe, Snake Game), ond mae'n anoddach dod o hyd i gemau eraill (yn cynnwys Atari Breakout a gêm antur yn seiliedig ar eiriau).

Yn yr un modd, mae Microsoft Edge yn rhoi mynediad i gêm syrffio i ddefnyddwyr sy'n gwybod ble i chwilio.

Mae'r Wyau Pasg hyn yn gallu ymddangos mewn sawl ffurf wahanol. Ar brydiau, rhaid defnyddio allwedd arbennig neu chwilio am eiriau penodol i'w canfod. Dro arall, efallai y bydd yn rhaid i chi ddilyn cyfres o gamau cymhleth, tra bo gemau eraill i'w canfod ar ffurf dolenni cudd mewn testun neu luniau.

Rydym wedi cynnwys dolenni cudd yn y testun hwn i gyfarwyddiadau ar gyfer rhai o'r gemau yr ydym wedi cyfeirio atynt (efallai y bydd yn rhaid i chi ganiatáu naidlenni).

Ein Hwy Pasg Ni

Rydym wedi creu ein gêm Wy Pasg ein hunain ar ein prif dudalen Cyfrifiadureg.

A allwch chi ddod o hyd iddi?