Diemwntau

English

Fersiwn pdf

Diemwntau

Bwriedir y gweithgaredd hwn ar gyfer myfyrwyr TGAU. Mae'r deunydd a welir yma yn perthyn i gwricwlwm Cemeg a Gwyddoniaeth Dwyradd CBAC.


Adolygu Carbon


Copi o'r Tabl Cyfnodol

https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Periodic_Table_Armtuk3.svg


Edrychwch ar safle carbon yn Nhabl Cyfnodol yr Elfennau a ddangosir uchod.

Beth mae ei safle yn y tabl yn dweud wrthym ni am briodweddau a strwythur Carbon?

Sawl electron sydd gan garbon?

Sawl plisgyn sydd gan garbon?

Sawl electron sydd ar y plisgyn allanol?

Bondio Cofalent

Beth yw bondio cofalent?

Mae pedwar electron ym mhlisgyn allanol carbon sy'n golygu y gall 'rannu' electron â hyd at bedwar atom arall.

Mae hyn yn galluogi carbon i ffurfio strwythurau cofalent enfawr.

Graffit

Edrychwn yn gyntaf ar graffit, sef un o strwythurau cofalent enfawr carbon.

Talp o graffit

https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Graphite-233436.jpg

Graffit yw'r defnydd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer 'plwm' mewn pensiliau.

Gan gofio hyn, pa briodweddau sydd gan graffit?

Gadewch inni edrych yn fwy manwl i weld sut mae atomau carbon yn bondio gyda'i gilydd.

Haenau delltau atom carbon sy'n ffurfio strwythur graffit

Mae pob atom carbon wedi'i atodi at dri arall mewn haen 2-ddimensiwn (sy'n cael ei alw yn graffin). Mae'r graffit yn cael ei ffurfio o nifer o'r haenau hyn.

Nawr fod gennych y wybodaeth yma, rhowch gynnig ar ateb y canlynol:

Pam mae gan graffit ymdoddbwynt uchel?

Pam mae graffit yn feddal ac yn rhwydd i'w dorri?

Pam mae graffit yn gallu dargludo trydan?

Mae bondiau cofalent yn gryf

Dim ond rhwng yr haenau mae bondiau cofalent

Mae pedwerydd electron sbâr pob atom yn symud yn rhwydd rhwng yr haenau

Diemwnt

Ffurf arall ar garbon mewn strwythur cofalent enfawr yw Diemwntau.

Diemwnt

https://www.flickr.com/photos/jurvetson/156830367

Mae'r llun isod yn dangos strwythur atomau carbon mewn diamwnt.

carbon wedi'i gysylltu gyda'i gilydd, pob atom รข 4 arall mewn strwythur tebyg i diliau 3d

https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Carbon_allotropes.svg

Cymharwch hyn â strwythur graffit er mwyn ateb y cwestiynau isod.

Pam mae gan ddiemwnt ymdoddbwynt uwch (tua 4027 ℃) na graffit (tua 3600 ℃)?

Pam mae diemwnt yn ddefnydd mwy caled na graffit?

A yw diemwnt yn gallu dargludo trydan? Eglurwch eich ateb.

Atebion

Dyma'r ddolen i'r dudalen atebion. Ynddo mae'r holl atebion wrth gyfrifo'r gwaith. Peidiwch â'i ddefnyddio nes eich bod wedi gorffen yr holl adrannau y gallwch eu gwneud neu os ydych yn hollol sownd.

Cwestiynau Arholiad o'r Gorffennol

Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â Banc Cwestiynau CBAC ar gyfer cwestiynau arholiad o'r gorffennol sy'n berthnasol i'r daflen waith hon.