Diamwntau: Atebion

English

Atebion

Adolygu Carbon

Beth mae ei safle yn y tabl yn dweud wrthym ni am briodweddau a strwythur Carbon? Mae'n anfetel.

Sawl electron sydd gan garbon? 6 gan mai dyma rif atomig carbon

Sawl plisgyn sydd gan garbon? 2 gan fod carbon yn yr ail gyfnod (rhes)

Sawl electron sydd ar y plisgyn allanol? 4 gan fod carbon yn elfen grŵp 4 (colofn IV)

Bondio Cofalent

Beth yw bondio cofalent? Pan mae atomau yn bondio trwy rannu electronau ar eu plisg allanol

Graffit

Graffit yw'r defnydd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer 'plwm' mewn penselau. Gan gofio hyn, pa briodweddau sydd gan graffit? Mae graffit yn feddal, yn llithrig ac yn frau

Pam mae gan graffit ymdoddbwynt uchel? Mae'r bondiau cofalent o fewn i'r haenau Graffin yn gryf iawn ac mae angen llawer o egni arnyn nhw i dorri'n rhydd

Pam mae graffit yn feddal ac yn rhwydd i'w dorri? Mae'r bondio rhwng yr haenau graffin yn wan iawn sy'n eu galluogi i lithro dros ei gilydd. Er enghraifft, wrth i chi ddefnyddio pensil, mae haenau'r carbon yn rhwbio ar y papur.

Pam mae graffit yn gallu dargludo trydan? Mae electronau'n symud yn rhydd rhwng haenau'r graffin sy'n dargludo trydan drwy'r strwythur

Diemwnt

Pam mae gan ddiemwnt ymdoddbwynt uwch (tua 4027 ℃) na graffit (tua 3600 ℃)? Mae gan bob atom carbon o fewn i strwythur diemwnt bedwar bond cofalent y mae'n rhaid eu torri yn hytrach na'r tri sydd mewn graffit.

Pam mae diemwnt yn ddefnydd mwy caled na graffit? Yn wahanol i graffit, nid yw diemwnt mewn haenau sy'n peri gwendid, mae'n strwythur mwy cadarn

A yw diemwnt yn gallu dargludo trydan? Eglurwch eich ateb. Na. Nid oes electronau sbâr/rhydd o fewn i'r strwythur i ddargludo gwefr drydanol