Y blaned agosaf at yr haul, y leiaf hefyd yng Nghysawd yr Haul
Mae'n debyg i'n lleuad ni o ran ei lliw a'i golwg. Fodd bynnag, y blaned hon sydd â'r dwysedd uchaf ond un yng Nghysawd yr Haul (dim ond y Ddaear sydd â dwysedd uwch).
Golyga maint Mercher fod ei hatmosffer yn denau iawn, felly nid yw'n amsugno gymaint o wres o'r haul ag a wneir gan y blaned Gwener.
Ar y blaned Mercher mae blwyddyn (sef yr amser mae'n cymryd i gwblhau orbit llawn o gwmpas yr haul) yn para dim ond 88 diwrnod y Ddaear.
Un ffaith ddiddorol yw bod Mercher yn troi ar ei hechel mewn 58.67 o ddiwrnodau'r Ddaear, ond eto mae cylch ei dydd a'i nos yn cymryd 176 o ddiwrnodau'r Ddaear i'w gwblhau oherwydd bod y blaned yn cylchdroi yn y cyfeiriad croes i gyfeiriad ei horbit o amgylch yr haul.
Mae Mercher yn un o'r pedair planed ddaearol yng nghysawd yr haul, sy'n golygu mai creigiau a/neu fetelau sy'n ffurfio'r blaned yn bennaf
Mae'n anodd iawn cludo offer i Fercher er mwyn ei harchwilio. Gan ei bod mor agos at yr haul, byddai unrhyw ymgais i gylchdroi o gwmpas y blaned yn ansefydlog. Hefyd, byddai angen mwy o gyflymder er mwyn i'r llongau gofod allu cyrraedd y blaned yn hytrach na chael eu tynnu yn syth i'r Haul.
Daeth y ddelwedd a ddangosir ar y chwith, a'r rhan fwyaf o'r wybodaeth fapio arall o chwiliedydd MESSENGER NASA, a fu'n cylchdroi o amgylch y blaned o 2011 hyd at 2015.
Ar yr 20fed Hydref 2018, lansiwyd taith newydd (BepiColombo) tuag at Fercher. Ar y daith hon mae dau chwiliedydd sy'n cylchdroi ar wahân o'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) ac Asiantaeth Archwilio Aerofod Japan (JAXA). Maent i fod i gyrraedd Mercher ym mis Rhagfyr 2025. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ar y daith hon, yn darparu gwaith modelu arwyneb ac ecsosffer rhagfynegol.
Defnyddiwch yr wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau yma:
Dyma'r ddolen i'r dudalen atebion. Ynddo mae'r holl atebion wrth gyfrifo'r gwaith. Peidiwch â'i ddefnyddio nes eich bod wedi gorffen yr holl adrannau y gallwch eu gwneud neu os ydych yn hollol sownd.