Mathemateg yn y Gegin

English

Mathemateg yn y Gegin

Dewch i ni ddechrau yn y gegin, lle mae'r holl weithgareddau yn cynnwys mathemateg ar ryw ffurf neu'i gilydd.

Faint o weithgareddau allwch chi feddwl amdanynt yn y gegin sy'n cynnwys sgiliau rhifedd?

Isod mae rhai agweddau sy'n berthnasol i weithgareddau yn y gegin a'r gofynion rhifedd wedi'u hamlygu.

Pobi

Dewch i ni ddechrau gyda'r gacen...

Teisen siocled â hufen a cheirios

Beth sydd gan gacen i'w wneud â mathemateg?

Os ydych yn gwneud y gacen eich hun, bydd angen i chi allu mesur/pwyso cynhwysion.

Beth wnewch chi os yw'r rysáit wedi'i ysgrifennu yn ôl pwys ac owns (neu gwpanaid) a dim ond clorian sy'n mesur gram/cilogram sydd gennych chi? Byddai angen mathemateg i drosi'r mesuriadau hyn.

Beth petai'r rysáit sydd gennych ar gyfer cacen sy'n fwy o faint neu'n llai nag yr ydych chi ei eisiau/angen? Byddai'n rhaid mynd ati'n gymesur i wneud y rysáit yn fwy neu'n llai.

Rydym wedi llunio gweithdy o'r enw 'Mathemateg Bwytadwy' ar gyfer ymarfer yr agweddau hyn ar rifedd - ac ydy, mae'n cynnwys ryseitiau go iawn y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw gartref.

Pan fydd gennych gacen, mae ei thorri yn ddarnau cyfartal i bawb yn gofyn am wybodaeth sylfaenol o ffracsiynau.

Symiau Dyddiol a Argymhellir

Detholiad o ffrwythau

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod am y rheol 5-y-dydd ar gyfer bwyta'n iach. Fodd bynnag, beth yw cyfran (portion)? Daw ffrwythau a llysiau mewn gwahanol siapiau a meintiau. Mae'r GIG/NHS yn nodi bod cyfran yn 80g, sy'n golygu bod angen mathemateg arnoch i sicrhau bod eich bwyta'n iach yn gywir.

Nid yw bod â diet iach a chytbwys yn golygu sicrhau eich bod chi'n bwyta'ch 5-y-dydd yn unig. Er enghraifft, ni fydd bwyta 5 afal y dydd yn cydbwyso bwyta llawer o fwydydd sothach yn llawn siwgr uchel.

Edrychwch ar rai o'r pecynnau bwyd yn eich cegin ac fe welwch eu bod i gyd yn rhestru gwerthoedd swm dyddiol a argymhellir ar draws gwahanol fathau o fwyd. Fel rheol rhoddir y rhain mewn gramau a chanrannau, ac nid ydyn nhw bob amser mor syml â chodi'r gwerth a nodir ar flaen y pecyn.

Label bwyd yn cynnwys y system 'goleuadau traffig'

Gall gofynion dietegol eraill gynnwys monitro ychwanegol ar y cynnwys o ran y siwgr ynddo, cyfrif calorïau neu wella protein.

Moctels

Mae cymysgu diodydd yn y gegin hefyd yn cynnwys mathemateg, ond sut?

Mae diod ffrwythau sgwosh yn dod gyda chyfarwyddiadau, yn enwedig nawr ein bod yn ffodus i gael dewis mor fawr o grynodiadau. Dywed y cyfarwyddiadau hyn i ni gymysgu 1 rhan o'r cordial/sgwosh gyda hyn a hyn o rannau dŵr. Mewn mathemateg, byddem yn galw hyn yn gymarebau.

Cyfarwyddiadau diod oren

Mae moctels neu ryseitiau diodydd fel arfer wedi'u darparu yn defnyddio'r un dull o gymarebau.

Amseru Swper

Mae dweud yr amser, ynddo'i hun, yn sgìl rhifedd sylfaenol.

Wrth goginio prydau cymhleth sydd â nifer o wahanol seigiau mae angen i chi allu cyfrifo'r amseriadau i sicrhau bod popeth yn barod i'w weini ar yr un pryd.

Cysylltwch â ni

Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?

Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.