Mathemateg yn yr Ystafell Wely

English

Mathemateg yn yr Ystafell Wely

Yr ystafell wely yw'r rhan o'r tŷ sy'n fwyaf cysylltiedig ag ymlacio a gorffwys.

Ydyn ni wedi dod o hyd i ystafell heb rifedd o'r diwedd?

Neges y gweithdai hyn yw bod mathemateg yn bresennol bob amser, hyd yn oed yn yr ystafell wely. Dewch i ni edrych ar ambell enghraifft.

Cwsg

Prif swyddogaeth y rhan fwyaf o ystafelloedd gwely yw bod yn lle diogel a chyfforddus i ni gysgu.

Yr argymhelliad yw ein bod ni'n ceisio cael tua wyth awr o gwsg y noson.

Dyma enghraifft arall o reoli amser.

Dyn yn cysgu dan y duvet gyda'i fraich yn ymestyn allan yn gafael mewn cloc larwm

Os oes angen i chi ddeffro erbyn amser penodol a'ch bod chi'n awyddus i gael digon o gwsg, faint o'r gloch y dylech chi fynd i'r gwely?

Dillad Gwely

Ar ryw bwynt yn eich bywyd, bydd yn rhaid i chi siopa am ddillad gwely. Beth yw maint eich gwely?

Yn ffodus, mae yna feintiau gwely safonol a gwerthir y rhan fwyaf o ddillad gwely yn y meintiau hyn. Fodd bynnag, os ydych chi'n un sy'n hoffi planced, bydd angen i chi wybod maint y gwely mewn metrau a centimedrau.

Mesuriadau matresi o wahanol feintiau (cot - 75×142cm, sengl bach - 75×190cm, sengl - 90×190cm, dwbl bach - 120×190cm, dwbl - 135×190cm, brenin - 152×198cm a brenin mawr - 183×198cm)
Canllaw meintiau gan InsideBedroom.com

Wynebir mater rhifedd gwahanol gan ddefnyddwyr duvet - Sgôr tog

Beth yw tog?

Daw duvets mewn meintiau gwely safonol ond mae iddynt sgôr tog hefyd. Mae Tog yn golygu Thermal Overall Grade; sy'n fesur o ba mor dda mae'r duvet yn dal gwres. Po uchaf y tog, y cynhesaf yw'r duvet.

Twmpath o obenyddion a duvets gwyn

Dillad

Gan fod pobl yn tueddu i gadw eu dillad neu wisgo yn yr ystafell wely, penderfynwyd ychwanegu'r adran hon.

Mae'n bosib eich bod chi wedi dyfalu'r cysylltiad rhwng rhifedd a dillad - meintiau.

I blant, mae'r meintiau'n eithaf syml fel arfer, gan fod meintiau'n cyfateb i oedran.

Ond wrth i chi fynd yn hyn, daw maint dillad yn fwy cymhleth. Bydd angen i chi wybod neu allu mesur hyd, taldra a lled y corff.

Siart yn dangos sut i fesur gwahanol rannau o'r corff er mwyn dewis gwisg ysgol sy'n ffitio
Dyma ganllaw mesur ar gyfer gwisg ysgol gan Monkhouse.com

Ffyrdd eraill y defnyddir rhifedd yng nghyd-destun ein cypyrddau dillad yw canfod sawl gwisg gyflawn wahanol y gallwch ei rhoi at ei gilydd heb wisgo'r un cyfuniad ddwywaith - dyma ddefnyddio cyfuniadeg mewn bywyd go iawn.

Diagram coeden wisgoedd yn mynd o un person, yn canghennu i 3 gwahanol fath o dop sydd wedyn yn canghennu i lawr i 4 gwahanol waelod, gan ddangos cyfanswm o 12 cyfuniad gwahanol o ddillad.
Coeden gyfuniadeg oddi ar MathBench.org.au

Dengys y ddelwedd uchod y gall 3 gwahanol dop a 4 gwahanol waelod gynhyrchu 12 gwisg gyflawn wahanol.

Cysylltwch â ni

Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?

Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.