Mathemateg yn y Cartref

English

Mathemateg yn y Cartref

"Beth yw pwynt mathemateg?"
"Pam ydyn ni angen gallu gwneud mathemateg?"
"Pryd fydda i byth angen gwybod theorem Pythagoras, cymarebau, twf esbonyddol neu hyd yn oed hafaliadau 'suvat' mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn?"

Mae'r rhain yn crynhoi llawer o'r cwestiynau y mae myfyrwyr wedi'u gofyn yn ystod gwersi mathemateg. Yn yr adran hon byddwn yn mynd ar daith o amgylch y cartref ac yn dangos sut mae sgiliau mathemateg yn berthnasol i lawer o agweddau ar fyw. Nid rhywbeth i'w ofni neu ei gasáu yw mathemateg, mae yno i'ch helpu chi yn eich bywyd.