HAFAN YMCHWIL ALLGYMORTH BLOG CYSWLLT ENGLISH

LIAM TOMOS EDWARDS

Ymchwilydd Ôl-raddedig Ffiseg yr Haul


Amdanaf i


Liam yn sefyll o flaen yr adeilad ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Fy enw i yw Liam Edwards a dwi'n ymchwilydd ôl-raddedig yn y grŵp ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar atmosffer ein Haul - sef y "corona". Dwi'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn angerddol am yr iaith Gymraeg ac mae fy noethuriaeth wedi ei ariannu gan ysgoloriaeth ymchwil ôl-raddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mi ddechreuais fy ngradd israddedig hefyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, ar ôl dechrau ar y cynllun Blwyddyn Sylfaen yn 2014, graddiais yn haf 2019 gyda gradd Meistr dosbarth cyntaf mewn Astroffiseg.

Rwy'n angerddol iawn am gyfathrebu gwyddoniaeth ac allgymorth ac rwyf wedi bod yn ymwneud â sawl prosiect allgymorth, ysgrifennu erthyglau, ac wedi gwneud sawl cyfweliad radio ar gyfer BBC Radio Cymru. Fy nod yw dod yn ddarlithydd ffiseg ac felly mae addysgu yn rhywbeth rwy'n mwynhau ei wneud yn fawr. Dwi wedi bod yn arddangoswr ôl-raddedig ar gyfer y modiwlau FG15720 Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr, FG05720 Cyflwyniad i Ffiseg Labordy ar gyfer Ffisegwyr a Pheirianwyr, a FG10020 Dynameg, Tonnau a Gwres yn ystod fy noethuriaeth.