HAFAN YMCHWIL ALLGYMORTH BLOG CYSWLLT ENGLISH

LIAM EDWARDS

Ymchwilydd Ôl-raddedig Ffiseg yr Haul


Blog


Calibreiddio CIP

Chwefror 5, 2021
1 / 2
CIP Calibration
2 / 2
CIP Elevator Selfie

Wel, mae 'di bod yn sbel ers i mi roi ddiweddariad am fy ymchwil felly roeddwn i'n meddwl y gallwn i wneud un wrth i mi aros i rai ffeiliau drosglwyddo i'm cyfrifiadur gwaith.

Cyn y Nadolig roeddwn yn gweithio ar gamera polareiddio golau gweladwy a oedd yn mynd i gael ei ddefnyddio yn yr Ariannin i arsylwi yr eclips solar llwyr ar Ragfyr 14eg. Enw'r offeryn yw'r "Coronal Imaging Polariser" (CIP). Yn Gymraeg, ystyr “cip” yw edrych yn gyflym ar rywbeth a, gan nad oedd cyfanrwydd yr eclips ond yn para am oddeutu 130 eiliad, roedd yn ymddangos yn enw priodol i'w roi i'r offeryn. Er gwaethaf i lawer o lwybr yr eclips gael ei orchuddio mewn cwmwl, llwyddodd y tîm i ddod o hyd i ddarn clir o awyr ar y funud olaf a llwyddo i gael arsylwadau anhygoel o ystyried yr amgylchiadau. Cyn gynted ag y byddaf yn cael rhannu rhai o'r delweddau hynny, gwnaf ond yn anffodus, am y tro, ni allaf!

Delwedd gyntaf yr post hon yw'r hyn yr oeddwn yn ei wneud heddiw sef calibreiddio'r offeryn. Yn gyntaf, pwyntiais yr offeryn at yr hyn a elwir yn sffêr integreiddio - dyfais sy'n cynhyrchu ffynhonnell golau unffurf - i'm galluogi i dynnu rhai delweddau "maes fflat" ("flat-field"). Yn ail, rhoddais y sffêr integreiddio off, ynghyd â golau’r ystafell, a gorchuddio cap lens yr offeryn yn ôl dros y lens. Roedd hyn er mwyn tynnu delweddau "maes tywyll" ("dark-fields") - y gwrthwyneb i'r maes fflat! Defnyddir y rhain i leihau unrhyw sŵn a gynhyrchir gan y canfodydd CMOS ei hun.

Byddaf yn postio diweddariad arall tua diwedd y mis hwn gan y bydd gobeithio y bydd digwyddiad allgymorth cyffrous yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf!


Comed Neowise

Gorffennaf 12, 2020
1 / 2
Comet Neowise (Wide Shot)
2 / 2
Comet Neowise through my telescope

Es i fyny Consti neithiwr a llwyddais i gipio'r lluniau hyn o'r gomed Neowise (yr un gyntaf (dinoethiad 10 eiliad) yn pwyntio tua'r Gogledd am Borth, yr ail un trwy fy nhelesgop). Hefyd llwyddais i weld yr blaned Iau a'i bedair lleuad mwyaf a'r blaned Sadwrn gyda'i gylchoedd trwy fy nhelesgop - noson serennu anhygoel!


Cwarantîn!

Ebrill 6, 2020
IDL on a Laptop

Helo bawb! Mae wedi bod yn amser ers i mi wneud post PhD felly sylweddolais y dylwn wneud un ynglŷn â sut mae'r cwarantîn hwn wedi effeithio ar fy ymchwil.

Mi oeddwn i wedi bod yn gweithio ar camera polareiddio i ddelweddu yr eclips solar llwyr sydd ar ddod yn Ne America ym mis Rhagfyr, ond gan fod y wlad gyfan ar gloi mae pob aelod o PhD a staff wedi bod yn gweithio o gartref ers ychydig wythnosau bellach. O ganlyniad, nid wyf wedi gallu mynd i mewn i'r labordy opteg i arbrofi gyda pholarisers a lensys ac, o ganlyniad, nid wyf wedi gallu gwneud mwy o waith ar hynny.

Dros yr wythnosau diwethaf, dwi wedi bod yn gweithio'n agosach gyda fy ngoruchwyliwr a'i ymchwil ar y gwynt solar, sy'n llif parhaus o ronynnau â gwefr drydanol (electronau ac ïonau) sy'n llifo o'r Haul. Gan fod y ffrwd hon wedi'i gwefru'n drydanol, gall gael effaith sylweddol ar y seilwaith electronig yma ar y Ddaear (gweler digwyddiad Carrington fel enghraifft). Mae wedi bod yn anodd gorfod newid arddulliau ymchwil mor sylweddol fel hyn, gan fynd o fod yn arbrofol yn unig i fod yn ddamcaniaethol yn unig. Dwi erioed wedi bod yn dda am godio ond nawr fy mod yn gorfod i'w wneud mae fy sgiliau wedi gwella'n eithaf cyflym. Felly rydw i newydd fod yn treulio'r wythnosau diwethaf yn dod i arfer â'r meddalwedd IDL (i'r rhai sydd â diddordeb) a'r maes ymchwil.

Fodd bynnag, rwyf hefyd yn ddiolchgar bod PhDs yn hyblyg a gall llawer o fyfyrwyr PhD weithio o gartref - o gymharu â myfyrwyr ysgol, coleg ac israddedigion sydd wedi cael eu heffeithio llawer mwy gan y pandemig hwn.

Gobeithio bod pawb yn ddiogel ac yn iach, a chofiwch: arhoswch adref!


Allgymorth y blaned Mawrth ac Arddangosi Ôl-raddedig

Rhagfyr 3, 2019
1 / 4
Me stood with the Barnes rover
2 / 4
Smaller Rover
3 / 4
PAT Lab
4 / 4
Oscilloscope

Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn eithaf prysur i mi o ran gwaith, felly bu'n rhaid i mi roi'r hyn a oedd yn mynd i fod yn ddwy post ar wahân mewn un!

Dydd Mercher diwethaf rhoddodd fy hun a myfyriwr PhD arall ddwy darlith yng Nglan-llyn, y Bala, am y blaned Mawrth a chyfranogiad y brifysgol â chenhadaeth ExoMars 2020 sydd ar ddod. Roedd tua 160 o blant (12-13 oed) yno a dyna pam y bu'n rhaid cael dwy darlith! Ar y cyfan, aeth yn dda iawn ac roedd yn ymddangos bod y plant yn cymryd rhan yn y darlith ac yn dangos diddordeb yn y cynnwys trwy ofyn ac ateb cwestiynau. Dwi'n gobeithio ein fod wedi ysbrydoli rhai ohonyn nhw i ddilyn yrfa mewn gwyddoniaeth yn y dyfodol!

Mae'r tri llun cyntaf yn rhai a gymerwyd gennym yn y labordy "Planetary Analog Terrain" (PAT) yn yr adran (a oedd i fod yn y darlith ond gwnaethom anghofio eu rhoi i mewn!). Mae'r un gyntaf yn dangos fi yn sefyll wrth ymyl model ar raddfa lawn o'r grwydryn ExoMars - o'r enw Barnes. Mae'n hollol amlwg gweld bod y crwydryn yn enfawr ac mae'r rhan fwyaf o bobl (yn cynnwys fi fy hun) mewn sioc pan maent yn gweld yr model! Mae'r 2il a'r 3ydd llun o'r PAT ei hun. Yn y bôn, blwch tywod ydyw wedi'i lenwi â deunydd tebyg i flawd sydd i fod i efelychu'r union amodau mecanyddol ar wyneb y blaned Mawrth. Mae'n helpu'r tîm ymchwil i weld sut y byddai crwydryn yn symud pe bai'n dringo dros greigiau neu'n ceisio dringo bryn cymharol serth.

Mae'r llun olaf o arbrawf labordy wnes i ddydd Iau diwethaf i baratoi ar gyfer sesiwn labordy blwyddyn gyntaf y prynhawn hwnnw roeddwn i'n arddangos ynddo. Fel myfyrwyr PhD, rydyn ni'n cael y cyfle i helpu mewn fodiwlau israddedig fel arddangoswyr lle rydyn ni yn cerdded o gwmpas a helpu unrhyw un o'r myfyrwyr sydd ei angen.

Mae'r mis diwethaf wedi bod yn eithaf anodd oherwydd dwi wedi bod yn ceisio cymryd rhan mewn cymaint o bethau â phosib. Fodd bynnag, mae'r holl waith ychwanegol hwnnw wedi dal i fyny efo fi y penwythnos sydd newydd fod ac rwyf wedi sylweddoli bod angen i mi fod yn ofalus gydag unrhyw waith ychwanegol yr wyf yn ei wneud. Gobeithio, gwers wedi'i ddysgu!


Ar goll yn y llenyddiaeth

Tachwedd 15, 2019
textbooks

Yn nodweddiadol, treulir blwyddyn gyntaf unrhyw PhD yn darllen .... lot! Mae dod yn gyfarwydd â'r maes ymchwil yn gam cyntaf mor bwysig. Yn bersonol, dwi wedi darganfod bod darllen gwerslyfrau wedi helpu gyda fy nghyflwyniad i ffiseg yr Haul yn fwy na darllen papurau cyhoeddedig. Y drafferth gyda phapurau yw'r derminoleg - mae'n gymleth iawn hyd yn oed yn y papurau symlaf! Felly fy ateb yw darllen cymaint o werslyfrau â phosib a (hyd yn hyn) mae wedi fy helpu llawer mwy na'r papurau dwi wedi'i ddarllen. Dyma'r prif werslyfrau dwi wedi bod yn eu darllen hyd yn hyn. Fy ffefryn i yw "The Solar Corona" gan Golub a Pasachoff oherwydd ei fod yn ymdrin nid yn unig â ffiseg y corona ond hefyd yr agwedd hanesyddol a sut y llwyddodd maes ffiseg y corona i gyrraedd y sefyllfa bresennol. Dwi hefyd wedi bod yn adnewyddu fy hun gyda'r maes opteg ers ei fod dros 2 flynedd ers fy modiwl opteg a byddaf yn chwarae o gwmpas gyda hidlen polareiddio ar gyfer camera yn fuan.

Polareiddiad y corona yw un o'r prif ffyrdd y gall ymchwilwyr eu defnyddio i gyfrifo dwysedd yr electronau yn y corona. Mae hyn oherwydd bod sawl ‘math’ gwahanol o gorona yn seiliedig ar y mecanweithiau sy’n eu cynhyrchu. Un o'r prif fathau yw'r "K-corona" sy'n cael ei greu gan wasgariad golau ffotosfferig oddi wrth electronau rhydd yn y corona sy'n polareiddio'r golau. Y prif fath arall o gorona yw'r "F-corona" sy'n cael ei gynhyrchu trwy wasgariad golau i ffwrdd o ronynnau llwch o amgylch yr Haul. Yna gellir defnyddio'r gwahaniaeth mewn polareiddio i gyfrifo dwysedd yr electronau yn y corona.

Post Blog Gyntaf!

Hydref 21, 2019
desk

Dwi wedi bod yn ystyried defnyddio Instagram i roi cipolwg bach ar fywyd myfyriwr PhD i'r rhai a allai fod â diddordeb mewn gwneud PhD. Mae'n debyg na fydd y postiau hyn yn aml, yn enwedig gan mai wythnosau cyntaf y PhD hwn yw'r hyn y mae'r llun yn ei ddangos yn y bôn - dim ond eistedd wrth fy nesg yn darllen papurau a gweithio ar fy adolygiad llenyddiaeth.

I'r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, dechreuais fy PhD 5 wythnos yn ôl heddiw yn y grŵp ymchwil Ffiseg System Solar yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r wythnosau cyntaf hyn wedi mynd heibio mor gyflym ac yn y bôn maent wedi cynnwys setlo fewn a dechrau darllen papurau ac ysgrifennu fy adolygiad llenyddiaeth.

Dwi'n gobeithio y byddaf yn gallu dechrau rhywfaint o waith labordy yn fuan iawn felly, gobeithio, bydd gen i ychydig mwy o bethau diddorol i siarad amdanynt yma!

Staff Photo

Liam Edwards

Dyma lle dwi'n anelu at bostio diweddariadau ymchwil felly gwyliwch y gofod hwn!


Dilynwch fi