Cyhoeddi gweddalennau ar Weinyddwr Prifysgol Aberystwyth
Caiff myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth gyhoeddi eu gweddalennau eu hunain yn rhad ac am ddim ar y We Fyd-Eang trwy weinyddwr y Brifysgol. Braint yw'r adnodd hwn ac mae'n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw weddalennau yr ydych yn eu cyhoeddi yn cydymffurfio â gofynion y Brifysgol.
- Cyhoeddi eich gweddalen
- Gwneud newidiadau i'ch gweddalen
- Ysgrifennu eich gweddalen
- Problemau gyda gweddalennau
Cyhoeddi eich gweddalen
I gyhoeddi gweddalen ar weinyddwr y Brifysgol bydd angen i chi:
- ychwanegu caniatâd cyhoeddi gwe i'ch cyfrif TG (Sut mae gwneud hynny?)
- ddarllen y Canllawiau ar gyhoeddi i'r We Fyd-Eang ym Mhrifysgol Aberystwyth a gwneud yn siwr bod eich tudalen yn cydymffurfio â hwy ( Ble maen nhw? )
-
sicrhau eich bod wedi cynnwys y neges ymwrthod ganlynol:
Mae'r wybodaeth a geir ar y ddalen hon ac ar ddalennau eraill wedi'u paratoi gennyf i, Jac Iwan (***@aber.ac.uk). Fy nghyfrifoldeb personol innau yw'r tudalennau ac nid cyfrifoldeb Prifysgol Aberystwyth. Yr un modd, fy marn i yw pob barn a fynegir ac ni ddylid ei hystyried yn farn Prifysgol Aberystwyth. - gwneud yn siwr nad ydych wedi cynnwys Logo nac Arfbais y Brifysgol ar eich tudalennau personol
- mapio gyriant rhwydwaith ( Sut mae gwneud hynny? )
- cadw eich tudalennau i'r cyfeiriadaur public html ar y Gyriant hwn (Gyriant M)
- rhoi'r enw index.html i'ch tudalen gartref
Dylai eich gweddalen ymddangos o dan:
https://users.aber.ac.uk/ [eich enw defnyddiwr]
Newid neu gywiro eich gweddalen
I ddiweddaru neu gywiro eich gweddalen, rhaid i chi:
- fapio gyriant M ( Sut mae gwneud hynny? )
- agor y ffeil yr hoffech ei golygu yn Notepad
- gwneud y newidiadau
- eu cadw
- cadarnhau eu bod wedi'u cadw drwy fynd i'ch tudalen yn fyw ar y we a phwyso'r botwm adnewyddu/ail-lwytho
Ysgrifennu eich gweddalen
- Mae offer ac adnoddau i'ch helpu i greu'ch gweddalen ar gael yma