Beth yw'r cynhwysydd lleiaf allwch chi ei gynllunio i ddal 4 wy?
Noder y dylid cwblhau'r gweithgaredd hwn o dan oruchwyliaeth oedolyn.
Yn gyntaf, byddwch angen pedwar wy iâr maint canolig - rydym yn argymell, os yw'n bosibl, eich bod yn creu rhai eich hun allan o blastisin/clai modelu.
Y dasg yw creu'r cynhwysydd lleiaf posibl allan o gardfwrdd ar gyfer storio'r wyau ynddynt.
Dyma rai templedi siâp 3D i'ch helpu i ddechrau creu eich cynhwysydd
Cofiwch adael ochr ar agor i fod yn gaead ar gyfer gosod a thynnu'r wyau.
Ydych chi eisiau gwybod pa mor dda wnaethoch chi?
Wel, bydd angen gwneud rhywfaint o waith mathemateg.
Gwnaethom fesur maint carton wy a gynlluniwyd i ddal 12 o wyau canolig:
Gwnaethom symleiddio'r fathemateg drwy drin y bocs fel petryal yn hytrach na chyfres o siapiau wy wedi'u glynu wrth ei gilydd.
Gyda'r mesuriadau hyn, gwnaethom gyfrifo cyfaint y bocs fel:
Hyd × Lled × Uchder = 29 × 11 × 7 = 2233cm3
Yr unig beth yr hoffem ei wybod yw faint o le a gymerir gan 4 wy. Felly, 12 (nifer yr wyau yn y carton hwn) ÷ 4 (y rhif y mae gennym ddiddordeb ynddo) = 3
Felly, mae angen rhannu cyfaint y bocs cyfan gyda 3 i gyfrifo cyfaint y bocs ar gyfer 4 wy:
2233cm3 ÷ 3 = 744cm3 (wedi'i dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf).
Nawr, eich tro chi.
Bydd angen i chi gyfrifo cyfaint eich cynhwysydd.
A oes gan eich cynhwysydd gyfaint llai na 744cm3?