English

Cartref



Dylunio ac Argraffu 3D

Pwrpas y gweithgareddau hyn yw helpu pob oedran i ddysgu sut i ddylunio modelau 3D ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, gan gynnwys argraffu 3D.


Allgymorth

Fel rhan o'n rhaglen Allgymorth, rydym yn gallu cynnig swyddog allgymorth i arwain y gweithdy ynghyd â 30 gliniadur, er y byddwn angen mynediad at y rhyngrwyd ar eu cyfer.
Er mwyn gweld pryd sydd ar gael ac archebu sesiwn, cysylltwch â Natalie Roberts ar nar25@aber.ac.uk


Diweddariad Coronafeirws

Yn anffodus, ar hyn o bryd ni allwn gynnal gweithdai neu weithgareddau dan arweiniad staff ar y campws nac oddi arno. O'r herwydd, rydym yn ceisio lanlwytho nifer o wahanol adnoddau i'w defnyddio mewn ysgolion neu gartref.

Yn y cyfamser rydym wedi bod yn defnyddio ein gwybodaeth am fodelu ac argraffu 3D i gynorthwyo staff gofal iechyd lleol i ddarparu offer amddiffynnol. Dyma'r ddolen i'r erthygl newyddion berthnasol ynghylch sut rydyn ni wedi bod yn helpu i frwydro yn erbyn y Coronafeirws gydag argraffu 3D..


Adnoddau

Mae'r ddewislen isod yn rhestru'r adnoddau y gellir eu defnyddio gartref, gyda grwpiau neu mewn ystafelloedd dosbarth.


Ewch yn ôl tudalen