Cronfa Caffael y GymraegCronfa Cymraeg Plant 3-7 OedTrawsgrifio |
Defnyddir confensiynau trawsgrifio CHILDES, sef CHAT (Codes for the Human Analysis of Transcripts), i drawsgrifio'n safonol recordiadau sain o blant ifainc yn siarad. Ceir llawlyfr am y confensiynau yn safle CHILDES ar y We, lle mae yna fersiwn .pdf o'r llawlyfr. Rhoddir isod grynhoad o'r confensiynau a ddefnyddir yn y gronfa ddata hon.
Ni ddynodwyd manylion goslefol ac eithrio pwyslais arbennig ar eiriau unigol a modd (datganiadau, cwestiynau ac ebychiadau trwy atalnodi arferol sef '. ? !').
Mae penawdau dechreuol yn cyfleu manylion am y siaradwyr a'r recordiadau. Ceir y penawdau isod ar ddechrau pob trawsysgrif:
@Begin | ||
@Participants: | TRY [ cyfeirnod siaradwr 1], Trystan [ enw cyntaf siaradwr 1], Target_child [ rôl siaradwr 1], | |
HEL [ cyfeirnod siaradwr 2], Heledd [ enw cyntaf siaradwr 2], Target_child [ rôl siaradwr 2], | ||
BMJ [ cyfeirnod siaradwr 3], Bob+morris+jones [ enw siaradwr 3], Investigator [ rôl siaradwr 3] | ||
@Filename: | c3004.cha [ cyfeirnod y trawsysgrif] |
Ceir @End ar ddiwedd pob ffeil.
Rhwng y penawdau hyn, mae'r trawsgrifiad:
Mae'r canlynol yn crynhoi'r confensiynau trawsgrifio a ddefnyddir yn y ffeiliau. Rhoddir sylwadau cyffredinol ar ôl y crynhoad.
Symbol | Ystyr | Enghraifft |
[...] ... | Dynoda bracedi sgwar sylwadau ar y data. Dynoda bracedi ongl res o eiriau y cyfeiria sylwadau atynt. Heb y bracedi ongl, cyfeiriant at y gair unigol blaenorol. | tractor [?] un cloc [?] un cloc [?] |
.!? | Dynoda ddiwedd llinell data sef brawddegau datganiadol, ebychiadol, cwestiynol. | |
+... +..? +/. | Datganiad heb ei orffen. Cwestiwn heb ei orffen. Heb ei orffen oherywdd torri ar draws. | |
,,, ,, | Ar ymyl chwith cnewyllyn cystrawennol y cymal Ar ymyl de cnewyllyn cystrwennol y cymal | ie,,, heddiw. dim heddiw,, na. |
Coma Dim coma | Rhwng gwahanol eitemau mewn rhestr yn enwedig ansoddeiriau (ond heb nodi'r berthynas rhyngddynt) Ailadrodd yr un eitemau mewn rhestr yn enwedig ansoddeiriau | cynffon mawr, hir cynffon hir hir. |
Llythyren fras ddechreuol |
Dynodir enwau personol, llefydd, brandiau. Yn lle enwau'r plant ac oedolion, enwau llefydd lleol, ac enwau llefydd gwaith lleol, defnyddir rhesi di-ystyr o lythrennau. Defnyddir y rhifolyn '0' ar ddiwedd fersiynau 'dienw' enwau llefydd lleol ac enwau llefydd gwaith lleol. | Steve-austin, Xrst ac Lmno0 |
[!!] | pwyslais gwrthgyferbyniol | |
[!] | pwyslais | na [!] |
["] | geiriau person arall | |
[% 2 sill] | nifer o sillau mewn deunydd ar goll | xxx [% 2 sill] |
[% Saesneg] | ymadrodd neu frawddeg Saesneg | welish i big christmas tree [% Saesneg] |
[% ca:n] | geiriau allan o ganeuon | dau gi bach yn mynd i 'r coed [% ca:n] |
[/] | ailadrodd | fi [/] fi sy 'n mynd |
[//] | ail-adrodd gyda newid | fi [//] ti sy 'n mynd |
[>] ac [<] | Siarad yr un pryd. Defnyddir rhifolion os oes mwy nag un enghraifft | |
[= 'eglurhad'] | Dynoda '=' eglurhad ar eiriau | tlacdol [= tractor] |
[=? 'eglurhad'] | Dynoda [=? eglurhad cwestiynol. | [=? 'di marw] |
[=! 'disgrifiad'] | Dynoda '=!' sut mae geiriau yn cael eu dweud. | [=! 'r' hir] |
[?] | trawsgrifiad cwestiynol | arian [?] |
xxx | Defnydd aneglur. Dynodir nifer y sillau megis [% 2 sill] | xxx [% 2 sill] |
& | Gair heb ei orffen | &bre |
: | Rhoddir : ar ôl llafariad yn lle'r acen grom ^ | ta:n yn lle tân |
,, | Tag ar gwestiwn | yn fanna mae 'o,, ynde? |
# | Saib rhwng geiriau | rho hwnna # yn1 fanna |
@sn terfynol | Ffurf dieiriol | br+rr@sn [=! onomatopia, sw:n car] |
@gl terfynol | Gair lol | nwci+nwcs@gl |
@l terfynol | Llythyren | s@l |
Gwnaethpwyd enwau personau, enwau llefydd, ac enwau llefydd gwaith lleol yn ddi-enw trwy ddefnyddio rhesi o lythrennau sy'n ddisynnwyr: ceir llythyren fras ar ddechrau pob un ohonynt, a cheir 0 ar ddiwedd enwau llefydd. Cedwir enwau unigolion cyhoeddus, cymeriadau ffug, a llefydd pell. Mae hyn yn colli manylion am ffurfiau geiriau, yn enwedig am dreigliadau (os digwyddant) a'r broses o chwarae gyda geiriau.
Defnyddid llawer o synau gan y plant wrth chwarae, a cheisiwyd trawsgrifio'r rhain, er nad oes ymdrech lwyr i gyfleu'r manylion seinegol. Dynodir hwy gan yr ol-ddodiad @sn. Defnyddir yr ol-ddodiad @gl i ddynodi ffurfiau lol, wrth chwarae gyda geiriau er enghraifft. Rhestrir y ddau ohonynt yn y ffeil 00depadd.cut.
Siaredir Saesneg gan rai o'r plant yn y recordiadau. Ni ddynodir geiriau Saesneg unigol - naill ai yn rhan o frawddeg Gymraeg neu yn sefyll ar wahân. Ond defnyddio < ... > i gwmpasu brawddegau sydd â geiriau Saesneg yn unig, a'r sylw [% Saesneg] yn eu dilyn.
Hefyd, defnyddir < ... > i gwmpasu ymadroddion a brawddegau a ddaw o ganeuon, hwiangerddi, ac yn y blaen, a'r sylw [% ca:n] yn eu dilyn - 'ca:n' am 'cân' (gweler isod am yr acen grom).
Defnyddir & i ddynodi geiriau heb eu gorffen (hynny yw, gweddillion a nid cwtogiadau).
Mae yna eiriau yn y ffeiliau sydd â'r un ynganiad ond gwahanol ystyron (homonymau). Mae llawer ohonynt yn codi oherwydd prosesau ffonolegol megis seingoll a chymathiad mewn sgwrs naturiol. Defnyddir rhifolion a'r collnod er mwyn gwahaniaethu rhwng homonymau. Rhydd y Lecsicon y lecsim y mae'r homonym yn perthyn iddo. Rhestrir y collnod yn y ffeil CHILDES 00depadd.cut i gyfrif am y ffaith ei fod yn digwydd ar ddechrau geiriau.
Mewn llafar naturiol, mae patrymau megis cyplad + rhagenw goddrychol yn digwydd fel rhagenw yn unig. Nodir y rhagenwau hyn gan y collnod ar eu diwedd. Ond mae cystrawen rhai enghreifftiau, yn bennaf mewn brawddegau gorchmynnol eu natur o fewn cyd-destun gêm, yn ansicr. Ond rhoddir y collnod ar ddiwedd yr enghreifftiau ansicr hefyd.
Mae system ysgrifennu'r Gymraeg yn cynnwys llythrennau sydd â'r acen grom: 'âêîô' a hefyd 'w' ac 'y', er nad oes darparieth mewn ASCII. Nid yw llythrennau sydd â'r acen grom yn cadw eu siapiau'n gyson ar draws gwahanol systemau cyfrifiadurol, fel y gwyddys. O ganlyniad, defnyddir 'a: e: i: o:' yn y trawsgrifiadau, confensiwn a all gyfrif am 'w:' a 'y:'. Defnyddir y confensiwn hwn er mwyn datrys amwysedd yn bennaf. Mae system ysgrifennu'r Gymraeg yn defnyddio acenion eraill megis y didolnod (e.e. 'ï'), yr acen ddyrchafedig (e.e. 'á') a'r acen drom (e.e. 'à'), ond nid oes galw am y rhain yn y trawsgifiadau.
Mae plant ac oedolion yn siarad yn y recordiadau. Yn y trawsgrifiadau, nodir plant gan y label 'Target_child' neu 'Child' ar un o linellau'r penawdau sef '@Participant'; a nodir oedolion gan y labeli 'Investigators' a 'Teachers'. Trawsgrifiwyd brawddegau'r oedolion yn llawn, ond nid mor fanwl; nid yw'r homonymau wedi'u nodi yn gyson.
*HEL: | mwy. |
*HEL: | mwy. |
*HEL: | 'na2 ni! |
*HEL: | 'ei [= chwerthin]. |
*HEL: | 'anna. |
*TRY: | nagi. |
*HEL: | na. |
*TRY: | Heledd, na' i gal yr un melyn, 'de. |
*TRY: | gei di gal yr un glas. |
@Comment: | sw:n chwarae. |
*TRY: | gei di 'm+ond rhyi [: rhoi] dwy [?]. |
*TRY: | ymm, nei di ryid, ymm +... |
*HEL: | heina? |
*HEL: | hwn. |
*TRY: | ia. |
*TRY: | &n [/] na. |
*TRY: | na, ryid tywod i+mewn # efo fi. |
*HEL: | naf. |
*TRY: | xxx [% 2 sill]. |
*TRY: | un cloc [?] |
*TRY: | xxx [% 3 sill] []. |
*HEL: | dw i [] +... |