Cronfa Caffael y Gymraeg

    Cronfa Cymraeg Plant 3-7 Oed

    CHILDES

    Mae CHILDES (Child Language Data Exchange System) yn cynnig amryw o adnoddau sy'n cynorthwyo astudio caffael iaith, datblygiad iaith, a dysgu iaith:

    • system o gonfensiynau sy'n galluogi creu fersiwn ysgrifenedig o recordiadau sain a fideo
    • rhaglenni cyfrifiadurol sy'n hwyluso'r gwaith o drawsysgrifio a dadansoddi
    • lleoliad ar gyfer storio fersiynau electronig o'r gronfa ddata
    • adnoddau ar gyfer cael copïau o'r ffeiliau electronig, gan gynnwys y gronfa hon
    • rhestr e-bost sy'n rhoi fforwm i ymchwilwyr

    Ceir manylion am y system hon a'r adnoddau uchod yn safle We Carnegie Mellon University, neu y safle drych cyfatebol yn Antwerp.