Cronfa Caffael y GymraegCefndir |
Cynhyrchwyd y gronfa gan brosiect a noddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ((R000236420) gyda grant o £45,590.
Lleolwyd y prosiect yn yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a'r Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor, a bu'n rhedeg o 1af Ionawr 1996 hyd at 31ain Rhagfyr 1996.
Professor Robert D. Borsley a Dr Michelle Aldridge o'r Adran Ieithyddiaeth PCB, a Mr Bob Morris Jones o'r Adran Addysg PCA oedd cyfarwyddwyr y prosiect.
Roedd dwy ymchwilwraig ymchwil yn gyfrifol am recordio a thrawsgrifio'r data: Ms Susan Clack ym Mangor a Ms Gwenan Creunant yn Aberystwyth.
Ymchwilio caffael cystrawen y Gymraeg oedd prif amcan y prosiect, ac yr oedd hyn yn golygu: