Treigladau yn y Gymraeg

      Bob Morris Jones
      Adran Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth
      bmj@aber.ac.uk


      Berf (+ goddrych) + gair: Meddal

      Mewn brawddeg sydd â berf, ceir y treiglad Meddal ar y gair cyntaf a ddaw ar ôl safle arferol y goddrych hyd yn oed os yw'r goddrych yn cael ei hepgor e.e.:

      prynodd Siân lawer o ffrwythau
      gwelais fran ddu
      prynais gar newydd
      ceisiais fynd ymlaen
      gall y dynion ifainc werthu eu ceir

      Gellir dadlau mai'r rheol hon sy'n gyfrifol am y treiglad ar ôl yna mewn brawddegau cypladol gan fod yna yn mynd yn lle'r goddrych ac yn newid ei safle e.e.:

      mae blodau yn y coed
      mae yna flodau yn y coed

      roedd digon o helpwyr
      roedd yna ddigon o helpwyr

      Tudalen Flaen Patrymau Gramadegol sy'n Achosi Treigladau