Herio

English

Her Siapiau 3D

Prawf hwyliog yw hwn i weld pa mor dda yr ydych yn gallu cyfuno siapiau yn TinkerCAD (i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, ewch i'r Cyflwyniad i TinkerCAD)


Rownd 1: Darparu'r siapiau i ddechrau gyda nhw a'r siâp ar y diwedd


Yn yr adran hon, byddwn yn dangos i chi'r ddwy siâp i'w defnyddio a'r siâp y dylech geisio ei chreu ohonyn nhw. Nid yw meintiau'r siapiau wedi eu newid yn y rownd yma, ond mae'n bosib fydd ambell un wedi eu cylchdroi.

Her 1:

Allwch chi ddefnyddio'r ddwy siâp ar ochr chwith y llun isod i greu'r siâp ar y dde?

Ciwb coch a silindr oren i greu ciwb coch gyda thwll silindrog trwyddo

Awgrym: Gallwch gylchdroi'r silindr yn gyntaf, neu gallwch aros tan ar ôl i chi eu cyfuno.


Her 2:

Allwch chi ddefnyddio'r ddwy siâp ar ochr chwith y llun i greu'r siâp ar y dde?

To gwyrdd (prism trionglog) a chiwb coch i greu ciwb melyn gyda rhic trionglog trwy'r wyneb uchaf

Awgrym: Sylwch ar liw'r siâp ar y pen, allwch chi greu hwnnw hefyd?


Her 3:

Allwch chi ddefnyddio'r ddwy siâp ar ochr chwith y llun i greu'r siâp ar y dde?

Prism seren 5 ochr melyn a seren 5 pigfain glas boglynnog i greu prism mauve pum pwynt pigfain gyda'r seren boglynnog wedi'i halinio a'i thorri allan o'r wyneb

Awgrym: Efallai gallech ddefnyddio opsiwn y drych ar y bar offer uchaf yn hytrach na chylchdroi?


Rownd 2: Darparu'r siâp ar y diwedd yn unig


Yn yr adran hon, rhaid i chi geisio dod o hyd i'r 2 siâp er mwyn ail-greu'r un a roddir. Nid yw meintiau'r siapiau wedi eu newid yn y rownd yma, ond mae'n bosib fydd ambell un wedi eu cylchdroi.


Her 4:

Allwch chi ail-greu'r siâp isod gan ddefnyddio 2 siâp yn unig o'r dewis o siapiau?


Calon goch wedi'i chysylltu â sylfaen côn

Awgrym: Mae'r galon yn un o'r siapiau


Her 5:

Allwch chi ail-greu'r siâp isod gan ddefnyddio 2 siâp yn unig o'r dewis o siapiau?


Sffêr wag y tu mewn i giwb gwag

Awgrym: Cafn o fewn cafn - Mae'r siapiau hyn wedi eu cyfuno


Her 6:

Allwch chi ail-greu'r siâp isod gan ddefnyddio 2 siâp yn unig o'r dewis o siapiau?


Prism hecsagonol gwyrdd gyda lympiau crwn ar dair ochr gyfagos

Awgrym: Dim ond 3 o'r chwe ochr sy'n chwyddo


Her 7:

Allwch chi ail-greu'r siâp isod gan ddefnyddio 2 siâp yn unig o'r dewis o siapiau?


Silindr glas gwelw gyda chylch wedi'i seilio ar gromlin wedi'i dorri o un o'r arwynebau crwn

Awgrym: Silindr solid + beth sy'n wag?


Her 8:

Allwch chi ail-greu'r siâp isod gan ddefnyddio 2 siâp yn unig o'r dewis o siapiau?


Ciwb crwm gwyn wedi'i hollti gydag agoriadau crwn ar bob un o'i ochrau

Awgrym: Hmm… beth am gael bach o hwyl gyda hwn?!