Cronfa Caffael y GymraegCronfa Cymraeg Plant 3-7 OedLecsicon |
Paratowyd lecsicon sy'n rhestru pob ffurf eiriol a ddefnyddid gan y plant, ynghyd ā'i chategori cystrawennol (rhan ymadrodd) a'i lecsim (cofnod mewn geiriadur). Defnyddir fformat a chonfensiynau CHILDES at y pwrpas hwn:
"ffurf" | {[scat "categori"]} | "lecsim" |
afal | {[scat en]} | "afal" |
fale | {[scat en]} | "afal" |
wedi | {[scat ag]} | "wedi" \ |
{[scat ar]} | "wedi" |
Yn achos enwau, dynodir rhif a chenedl hefyd fel a ganlyn:
"ffurf" | {[scat "categori"]} | "lecsim" |
afal | {[scat en] [rhif un] [cen g]} | "afal" |
fale | {[scat en] [rhif ll]} | "afal" |
Rhoddir manylion am y codau yn y disgrifiad o en yn y Categorļau isod.
Defnyddir y categoriau a'r codau cystrawennol canlynol:
?? | ffurfiau amwys e.e. meddwl = berfenw neu enw |
a1 | adferfau rhagenwol lle megis fanna, fama, fancw, fanny ac yn y blaen |
ab | adferfau brawddegol megis hefyd, felly ac ati |
ad | adferfau eraill (ac eithrio rhai eraill isod) |
ag | gair agweddol yn, wedi |
an | ansoddeiriau |
ar | arddodiaid |
as | adferfau symudiad megis allan, ymlaen, i+ffwrdd, i+lawr ac ati |
at | adferfau tu- megis tu+allan, tu+ol ac ati |
b4 | berf Gymraeg gyda therfyniad Saesneg |
bd | berfau Saesneg -ed, -en neu'r ffurfiau cyfatebol afreolaidd - crashed, drunk |
be | berfenwau ac eithrio bod |
bf | berfau ac eithrio bod |
bf1 | berf derfynedig geirfaol (yn y llinellau cystrawennol yn y ffeiliau data ond nid yn y lexicon) |
bf2 | berf derfynedig cynorthwyol (yn y llinellau cystrawennol yn y ffeiliau data ond nid yn y lexicon) |
bf3 | berf derfynedig gorchmynnol (yn y llinellau cystrawennol yn y ffeiliau data ond nid yn y lexicon) |
bg | berfau Saesneg -ing |
bp | berfau Saesneg plaen h.y. berfenw |
ca | canu neu gān |
cd | geiriau cydraddoli megis a, neu, ond |
ce | y cyplad mewn ffurf ferfenwol megis bod, fod |
cf | y cyplad mewn ffurf ferf megis mae, oeddwn ac ati |
cm | mwy ac ati fel geiriau cymharu e.e. may addas, llai oer ac ati |
cn | geiriau cyfarchion ac ati megis helo |
cy | cysyllteiriau adferfol cymalau is-raddol megis achos ac ati |
d1 | geiryn rhagferfol, cynffon: oni megis 't, 'n', yn', ynd, ac yn y blaen |
d2 | geiryn rhagferfol, cadarnhaol: y1, fe1, mi1 |
d3 | geiryn rhagferfol, negyddol : nid megis d, t |
d4 | geiryn rhagferfol, negyddol, mewn atebion a thagiau: na |
d5 | geiryn rhagferfol, negyddol, mewn is-gymal: na5 |
d6 | geiryn rhagferfol, cwestiynol, mewn is-gymal: a1 |
eb | ebychiadau megis oo, aa, hei ac ati |
en | enwau ac eithrio rhaid |
defnyddir is-gategorļau: rhif = un(igol) neu ll(uosog); cen(edl) = g(wrywaidd) neu | |
b(enywaidd) neu gb | |
er | arall, eraill |
es | eisiau |
f1 | gair ateb cadarnhaol: ie, ia, ac yn y blaen; do |
f2 | gair ateb negyddol: nage, nace, naci ac yn y blaen; naddo |
g1 | geiriau pa enwol - beth, pwy |
g2 | geiriau pa adferfol - pryd, pam, sut |
g3 | pa |
g4 | geiriau pa + bynnag - beth+bynnag, pryd+bynnag |
g5 | faint |
ga | gair ateb neilltuol h.y. ie, nage, do, naddo |
gc | gair cymharu na |
gd | geiriau dangosol dyma, dyna, dacw |
gg | geiriau goleddfu megis rhy, go, mor |
gm | geiriau mesur megis digon, llawer |
gt | gair traethiadol yn |
gy | geiryn onid e: yntefe, tefe, ac hefyd 'de, 'te, ynte, etc. (efallai mai ynteu ydynt weithiau) |
ll | geiriau rhagenwol lleoliadol h.y. yna, yma, acw |
ly | llythyren megis p@l |
mo | geiriau moddoldeb efallai, hwyrach |
ne | negydd e.e. dim |
on | geiriau onomatopeig (ond dylid eu dosbarthu fel enwau os mai enwau ydynt e.e. bipbip) |
pa | parch megis pardon, plis, sori ac ati |
pe | geiriau penodi megis y, fy, ych ac ati (ond gweler r8 am fy etc.). |
pi | piau a'i ffurfiau |
ffurfiau aneglur, od | |
r1 | rhagenwau personol megis ti, fo |
r2 | rhagenwau dangosol megis hwn |
r3 | rhagenwau amhendant megis rhywun |
r4 | rhagenwau amhendant negyddol megis neb |
r5 | rhagenwau atblygol megis fy+hun |
r6 | rhagenwau cilyddol megis ei+gilydd |
r7 | rhagenwau cydraddol megis finnau |
r8 | rhagenwau blaen megis fy, ei |
r9 | rhagenwau dewisol megis llall |
rd | rhaid a'i ffurfiau |
ri | rhifolion un, dau, tri ac ail, trydydd |
rp | rhagenwau cyffredinol megis pawb, popeth |
rq | ymadroddion megis pwy+'na, beth+'na, lle+'na, be+ti'+'n+galw |
sg | seibiau geiriol megis yy, ymm |
sy | synau di-eiriol sydd ag ystyr megis hy+hy, mm+mm ac ati |
ya | gair adferfol yn |
ys | gair Saesneg e.e. naughty |
z1 | geiryn blaenu gofyniadol: efe |
z2 | geiryn blaenu datganiadol: na3, mai, taw |
Geiriau lol | Ceir @gl ar eu diwedd yn y ffeiliau data. | chic+chics+tics@gl |
Synau | Ceir @sn ar eu diwedd yn y ffeiliau data. | iii@sn |
Geiriau Saesneg | Cynhwysir geiriau Saesneg unigol mewn brawddegau Cymraeg neu ar wahān. Ni chynwysir rhes o eiriau Saesneg sy'n creu ymadrodd neu frawddeg. Yn y ffeiliau data, rhoddir <...> o'u cwmpas ac ychwangir [% Saesneg] ar ei holau. Trafodir geiriau ieithoedd eraill yn yr un modd. | welish i big christmas tree [% Saesneg]. |
Geiriau caneuon ac ati. | Yn y ffeiliau data, rhoddir <...> o'u cwmpas ac ychwangir [% ca:n] ar ei holau. | dau gi bach yn mynd i 'r coed [% ca:n]. |
Enwau priod. | Ceir llythyren fras ar eu dechrau yn y ffeiliau data. | |
Geiriau heb eu gorffen. | Ceir & ar eu dechrau yn y ffeiliau data. | &ffl |