Cronfa Caffael y Gymraeg

    Cronfa Cymraeg Plant 3-7 Oed

    Trawsgrifio

    Childes

    Defnyddir confensiynau trawsgrifio CHILDES, sef CHAT (Codes for the Human Analysis of Transcripts), i drawsgrifio'n safonol recordiadau sain o blant ifainc yn siarad. Ceir llawlyfr am y confensiynau yn safle CHILDES ar y We, lle mae yna fersiwn .pdf o'r llawlyfr. Rhoddir isod grynhoad o'r confensiynau a ddefnyddir yn y gronfa ddata hon.

    Ni ddynodwyd manylion goslefol ac eithrio pwyslais arbennig ar eiriau unigol a modd (datganiadau, cwestiynau ac ebychiadau trwy atalnodi arferol sef '. ? !').

    Fformat ffeil data

    Mae penawdau dechreuol yn cyfleu manylion am y siaradwyr a'r recordiadau. Ceir y penawdau isod ar ddechrau pob trawsysgrif:

    @Begin  
    @Participants: TRY [ cyfeirnod siaradwr 1], Trystan [ enw cyntaf siaradwr 1], Target_child [ rôl siaradwr 1],
      HEL [ cyfeirnod siaradwr 2], Heledd [ enw cyntaf siaradwr 2], Target_child [ rôl siaradwr 2],
      BMJ [ cyfeirnod siaradwr 3], Bob+morris+jones [ enw siaradwr 3], Investigator [ rôl siaradwr 3]
    @Filename: c3004.cha [ cyfeirnod y trawsysgrif]  

    Ceir @End ar ddiwedd pob ffeil.

    Rhwng y penawdau hyn, mae'r trawsgrifiad:

    • Mae pob llinell data yn dechrau gyda *
    • Mae'r siaradwyr yn cael eu dynodi gan tair llythyren bras megis TRY
    • Mae brawddeg y siaradwr yn dilyn
    • Mae'r sillafu yn adlewyrchu ffurfiau llafar
    • Defnyddir cromfachau ongl a sgwar i gyfleu gwahanol gonfensiynau (gweler nesaf)
    • Mae @ yn cyflwyno llinell sy'n cynnig sylwadau

    Confensiynau a ddefnyddiwyd

    Mae'r canlynol yn crynhoi'r confensiynau trawsgrifio a ddefnyddir yn y ffeiliau. Rhoddir sylwadau cyffredinol ar ôl y crynhoad.

     
    Symbol Ystyr Enghraifft
         
    [...]
    ‹ ... ›
     
    Dynoda bracedi sgwar sylwadau ar y data.
    Dynoda bracedi ongl res o eiriau y cyfeiria sylwadau atynt.
    Heb y bracedi ongl, cyfeiriant at y gair unigol blaenorol.
    tractor [?]
    ‹un cloc› [?]
    un cloc
    [?]
    .!? Dynoda ddiwedd llinell data sef brawddegau datganiadol, ebychiadol, cwestiynol.  
    +...
    +..?
    +/.
    Datganiad heb ei orffen.
    Cwestiwn heb ei orffen.
    Heb ei orffen oherywdd torri ar draws.
     
    ,,,
    ,,
    Ar ymyl chwith cnewyllyn cystrawennol y cymal
    Ar ymyl de cnewyllyn cystrwennol y cymal
    ie,,, heddiw.
    dim heddiw,, na.
    Coma
    Dim coma
    Rhwng gwahanol eitemau mewn rhestr yn enwedig ansoddeiriau (ond heb nodi'r berthynas rhyngddynt)
    Ailadrodd yr un eitemau mewn rhestr yn enwedig ansoddeiriau
    cynffon mawr, hir
    cynffon hir hir.
    Llythyren fras ddechreuol Dynodir enwau personol, llefydd, brandiau.
    Yn lle enwau'r plant ac oedolion, enwau llefydd lleol, ac enwau llefydd gwaith lleol, defnyddir rhesi di-ystyr o lythrennau.
    Defnyddir y rhifolyn '0' ar ddiwedd fersiynau 'dienw' enwau llefydd lleol ac enwau llefydd gwaith lleol.
    Steve-austin, Xrst ac Lmno0
    [!!] pwyslais gwrthgyferbyniol  
    [!] pwyslais na [!]
    ["] geiriau person arall  
    [% 2 sill] nifer o sillau mewn deunydd ar goll xxx [% 2 sill]
    [% Saesneg] ymadrodd neu frawddeg Saesneg welish i ‹big christmas tree› [% Saesneg]
    [% ca:n] geiriau allan o ganeuon ‹dau gi bach yn mynd i 'r coed› [% ca:n]
    [/] ailadrodd fi [/] fi sy 'n mynd
    [//] ail-adrodd gyda newid fi [//] ti sy 'n mynd
    [>] ac [<] Siarad yr un pryd.
    Defnyddir rhifolion os oes mwy nag un enghraifft
     
    [= 'eglurhad'] Dynoda '=' eglurhad ar eiriau tlacdol [= tractor]
    [=? 'eglurhad'] Dynoda [=? eglurhad cwestiynol. [=? 'di marw]
    [=! 'disgrifiad'] Dynoda '=!' sut mae geiriau yn cael eu dweud. [=! 'r' hir]
    [?] trawsgrifiad cwestiynol arian [?]
    xxx Defnydd aneglur.
    Dynodir nifer y sillau megis [% 2 sill]
    xxx [% 2 sill]
    & Gair heb ei orffen &bre
    : Rhoddir : ar ôl llafariad yn lle'r acen grom ^ ta:n yn lle tân
    ,, Tag ar gwestiwn yn fanna mae 'o,, ynde?
    # Saib rhwng geiriau rho hwnna # yn1 fanna
    @sn terfynol Ffurf dieiriol br+rr@sn [=! onomatopia, sw:n car]
    @gl terfynol Gair lol nwci+nwcs@gl
    @l terfynol Llythyren s@l

    Gwnaethpwyd enwau personau, enwau llefydd, ac enwau llefydd gwaith lleol yn ddi-enw trwy ddefnyddio rhesi o lythrennau sy'n ddisynnwyr: ceir llythyren fras ar ddechrau pob un ohonynt, a cheir 0 ar ddiwedd enwau llefydd. Cedwir enwau unigolion cyhoeddus, cymeriadau ffug, a llefydd pell. Mae hyn yn colli manylion am ffurfiau geiriau, yn enwedig am dreigliadau (os digwyddant) a'r broses o chwarae gyda geiriau.

    Defnyddid llawer o synau gan y plant wrth chwarae, a cheisiwyd trawsgrifio'r rhain, er nad oes ymdrech lwyr i gyfleu'r manylion seinegol. Dynodir hwy gan yr ol-ddodiad @sn. Defnyddir yr ol-ddodiad @gl i ddynodi ffurfiau lol, wrth chwarae gyda geiriau er enghraifft. Rhestrir y ddau ohonynt yn y ffeil 00depadd.cut.

    Siaredir Saesneg gan rai o'r plant yn y recordiadau. Ni ddynodir geiriau Saesneg unigol - naill ai yn rhan o frawddeg Gymraeg neu yn sefyll ar wahân. Ond defnyddio < ... > i gwmpasu brawddegau sydd â geiriau Saesneg yn unig, a'r sylw [% Saesneg] yn eu dilyn.

    Hefyd, defnyddir < ... > i gwmpasu ymadroddion a brawddegau a ddaw o ganeuon, hwiangerddi, ac yn y blaen, a'r sylw [% ca:n] yn eu dilyn - 'ca:n' am 'cân' (gweler isod am yr acen grom).

    Defnyddir & i ddynodi geiriau heb eu gorffen (hynny yw, gweddillion a nid cwtogiadau).

    Mae yna eiriau yn y ffeiliau sydd â'r un ynganiad ond gwahanol ystyron (homonymau). Mae llawer ohonynt yn codi oherwydd prosesau ffonolegol megis seingoll a chymathiad mewn sgwrs naturiol. Defnyddir rhifolion a'r collnod er mwyn gwahaniaethu rhwng homonymau. Rhydd y Lecsicon y lecsim y mae'r homonym yn perthyn iddo. Rhestrir y collnod yn y ffeil CHILDES 00depadd.cut i gyfrif am y ffaith ei fod yn digwydd ar ddechrau geiriau.

    Mewn llafar naturiol, mae patrymau megis cyplad + rhagenw goddrychol yn digwydd fel rhagenw yn unig. Nodir y rhagenwau hyn gan y collnod ar eu diwedd. Ond mae cystrawen rhai enghreifftiau, yn bennaf mewn brawddegau gorchmynnol eu natur o fewn cyd-destun gêm, yn ansicr. Ond rhoddir y collnod ar ddiwedd yr enghreifftiau ansicr hefyd.

    Mae system ysgrifennu'r Gymraeg yn cynnwys llythrennau sydd â'r acen grom: 'âêîô' a hefyd 'w' ac 'y', er nad oes darparieth mewn ASCII. Nid yw llythrennau sydd â'r acen grom yn cadw eu siapiau'n gyson ar draws gwahanol systemau cyfrifiadurol, fel y gwyddys. O ganlyniad, defnyddir 'a: e: i: o:' yn y trawsgrifiadau, confensiwn a all gyfrif am 'w:' a 'y:'. Defnyddir y confensiwn hwn er mwyn datrys amwysedd yn bennaf. Mae system ysgrifennu'r Gymraeg yn defnyddio acenion eraill megis y didolnod (e.e. 'ï'), yr acen ddyrchafedig (e.e. 'á') a'r acen drom (e.e. 'à'), ond nid oes galw am y rhain yn y trawsgifiadau.

    Mae plant ac oedolion yn siarad yn y recordiadau. Yn y trawsgrifiadau, nodir plant gan y label 'Target_child' neu 'Child' ar un o linellau'r penawdau sef '@Participant'; a nodir oedolion gan y labeli 'Investigators' a 'Teachers'. Trawsgrifiwyd brawddegau'r oedolion yn llawn, ond nid mor fanwl; nid yw'r homonymau wedi'u nodi yn gyson.

    Enghraifft o drawsgrifiad

    *HEL:mwy.
    *HEL:mwy.
    *HEL:'na2 ni!
    *HEL:'ei [= chwerthin].
    *HEL:'anna.
    *TRY:nagi.
    *HEL:na.
    *TRY:Heledd, na' i gal yr un melyn, 'de.
    *TRY:gei di gal yr un glas.
    @Comment:sw:n chwarae.
    *TRY:gei di 'm+ond rhyi [: rhoi] dwy [?].
    *TRY:ymm, nei di ryid, ymm +...
    *HEL:heina?
    *HEL:hwn.
    *TRY:ia.
    *TRY:&n [/] na.
    *TRY:na, ryid tywod i+mewn # efo fi.
    *HEL:naf.
    *TRY:xxx [% 2 sill].
    *TRY:‹un cloc› [?]
    *TRY:‹xxx [% 3 sill]› [›].
    *HEL:‹dw i› [‹] +...