Cronfa Cymraeg Plant 3-7 Oed

    Cefndir

    Mae yna ddau brosiect sydd wedi chwarae rhannau allweddol i greu y gronfa hon.

    Prosiect y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol

    Cynhyrchwyd y gronfa gan brosiect a noddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (R000237978) gyda grant o £60,611, a lleolwyd y prosiect yn yr Adran Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth, a bu'n rhedeg am 12 mis o 1af Gorffennaf 1999 hyd at 30ain Mehefin 2000.

    Bob Morris Jones oedd cyfarwyddwr y prosiect, a thrawsgrifiwyd y recordiadau yn null CHILDES gan Merris Griffiths a Mared Roberts, Swyddogion Ymchwil.

    Oherwydd gwahaniaethau tafodieithol, bu'n fanteisiol cael y naill swyddog ymchwil o'r gogledd a'r llall o'r de.

    Yr oedd i'r prosiect dri amcan uniongyrchol:

    • creu cronfa ddata electronig o recordiadau sain o blant rhwng tair oed a saith oed sy'n siarad Cymraeg
    • paratoi lecsicon o'r ffurfiau geiriol a ddigwydd yn y gronfa ddata
    • lleoli'r gronfa ddata yn safle CHILDES i fod ar gael yn gyhoeddus i ymchwilwyr sydd â diddordeb.

    Yna gallai y gronfa ddata yn CHILDES a'r lecsicon fod yn adnoddau ymchwil ar gyfer:

    • astudio gramadeg y frawddeg a disgwrs iaith plant
    • manteisio ar raglenni cyfrifiadurol CHILDES i wneud dadansoddiadau geirfaol a chystrawennol.

    Fe all ymchilwyr sy'n ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadurol fanteisio ar gysondeb dulliau trawsgrifio CHILDES i ffurfio eu dadansoddiadau eu hunain. Gellir defnyddio iaith raglennu fel Icon ar gyfer gwneud dadansoddiadau awtomatig.

    Prosiect cynharach Datblygiad Iaith a Chysyniadau

    Casglwyd y data y bu'r prosiect yn ymwneud ag o yn wreiddiol fel rhan o brosiect oedd wedi ei ariannu gan y Swyddfa Gymreig, Datblygiad Iaith a Chysyniadau, dan gyfarwyddiaeth CJ Dodson rhwng 1974 ac 1977, wedi'i weinyddu gan Bob Morris Jones, a wedi'i staffio ar wahanol adegau gan Brec'hed Piette, Hefin Jones, John Jones, Wyn James, Christine James, a Nesta Dodson.

    Dosbarthwyd holiadur i rieni'r plant yn y prosiect cynharach a ofynnai am fanylion ynglyn â chefndiroedd y plant, cwestiynau yn ymwneud â:

    • rhyw y plentyn
    • cefndir gwaith a chymdeithasol y rhieni
    • cefndir addysg y rhieni
    • cefndir iaith y rhieni
    • defnydd iaith y plant
    • iaith yr ysgol

    Mae canlyniadau'r holiaduron hefyd wedi'u codio fel testun plaen cyfrifiadurol ac i'w gael ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

    Rhoddwyd profion cysyniadol i'r un plant yn ogystal. Mae'r canlyniadau yma hefyd wedi'u codio, a fe'u lleolir mewn ffeiliau cyfrifiadurol testun plaen ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.