Treigladau yn y Gymraeg



      Fe a mi: geiryn, rhagenw

      Mae'r ffurfiau fe a mi yn digwydd fel gwahanol eiriau sydd â gwahanol swyddi.

      • Geiryn rhagferfol
      • Rhagenw

      Geiryn rhagferfol

      Rhydd y canlynol enghreifftiau o fe a mi fel geiryn rhagferfol:

      • Fe / mi welodd pawb y ffilm ar y noson gyntaf.
      • Fe / mi fydd Mair yma cyn bo hir.
      • Fe / mi ganodd y côr yn dda iawn.

      Yn y swydd hon, mae fe ac mi yn sefyll o flaen berf ac yn cyfrannu at ddynodi bod y frawddeg yn gadarnhaol ac yn ddatganiadol. Gweler a gofynnol am enghraifft o eiryn rhagferfol arall.

      Rhagenw

      Ceir enghreifftiau o fe rhagenw fel a ganlyn:

      • Fe safai fe wrth y ffenestr.
      • Yr oedd pawb yn ei feio fe.
      • Ni fu fe yna am hir iawn.

      Ceir enghreifftiau o mi rhagenw fel a ganlyn:

      • Rhowch yr arian i mi.
      • Rhaid i mi aros tan heno.
      • Fe fyddai'n well i mi fynd yn awr.

      Nid yw fe na mi rhagenw yn achosi treiglad.

      Tudalen Flaen Treigladau yn y Gymraeg