Treigladau
yn y Gymraeg
Bob Morris Jones
bmj@aber.ac.uk
A: cysylltair, perthynol,
gofynnol
Mae'r ffurf a yn digwydd fel gwahanol
eiriau sydd â gwahanol swyddi.
Rhydd y
canlynol enghreifftiau o a cysylltair:
- Bara a chaws.
- Llaw a throed.
- Talcen a phen.
- A
phan agorodd y drws, rhuthrodd pawb i'r ystafell.
- Yr oedd Gwyn yn golchi, sychu a chadw'r
llestri,
Mae a
perthynol yn digwydd mewn:
- cymal perthynol, sef enw a ddilynir gan gymal:
- Nid oeddwn yn adnabod y ddynes a ddaeth
trwy'r drws.
- Fe brynais y llyfr a welais yn y farchnad.
- Fe roddaf wobr i unrhyw un a all ateb y
cwestiwn.
- brawddeg gymysg, sef brawddeg sydd ag elfen ar y
blaen sydd fel arfer yn digwydd yng nghorff y frawddeg:
- Y lori a achosodd y broblem.
- Y prifathro a fydd yn gwybod.
- Sioned a welodd y digwyddiad.
Mae a
gofynnol yn digwydd ar flaen cwestiynau sy'n dilyn patrwm brawddeg normal:
- A
welaist Sioned ddoe?
- A
fydd pawb yna?
- A fu
cyfarfod neithiwr?
- A
ddaw y bws mewn pryd?
Hefyd, digwydd a
ar flaen cymal gofynnol sydd yn gyflawniad i ferf neu ferfenw:
§ Nid
wn a fydd Megan yna.
§ Ydych
chi’ gwybod a oes digon o fwyd i
bawb?
§ Y
cwestiwn yw a oedd y pwyllgor wedi
cytuno.
§ Rwyf
yn amau a yw Mair yn fodlon.
Tudalen Flaen Treigladau
yn y Gymraeg