AROLWG SILWAIR BYRNAU MAWR Gwybodaeth a chaniatâd

 

Teitl yr astudiaeth: Arolwg o arferion silweirio a storio silwair byrnau mawr

 

Ymchwilydd: Rhun Fychan, arf@aber.ac.uk, 01970 823061

 

Diben yr astudiaeth:

Bydd yr arolwg hwn yn casglu gwybodaeth am arferion presennol o silweirio a storio silwair byrnau mawr. Bydd canlyniadau'r arolwg yn ein galluogi i dargedu meysydd ymchwil perthnasol i helpu i wella technegau silweirio a storio.

Sut y gallwch chi helpu

Trwy gwblhau'r arolwg ar-lein (cliciwch ar y botwm i'r dde i ddechrau). Os ydych chi'n hapus i ni gysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol, neu os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, gadewch eich manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg.

 

Mae tair rhan i'r arolwg:

  1. Eich proses silweirio bresennol
  2. Maint y gwastraff gweladwy ar y byrnau yn eich system bresennol
  3. Eich barn ar y system bresennol a'ch nodau yn y dyfodol

 

Er mwyn helpu i gwblhau adran 2 yr arolwg, efallai y byddwch am fonitro faint o wastraff gweladwy sy'n ar eich byrnau dros nifer o ddiwrnodau neu wythnosau yn dibynnu ar y nifer o byrnau rydych chi'n eu bwydo ar hyn o bryd, cyn i chi gwblhau'r arolwg. Mae gennym ddiddordeb i ddeall faint o lwydni/gwastraff a welwch ar arwynebedd top, ochrau ac gwaelod y byrnau o fewn pob haen o'r dâs.

 

Gyda byrnau sgwâr ac byrnau crwn wedi'u storio ar eu talcen mae’r arwynebau top, ochr ac gwaelod yn hunan esboniadol (gweler y ffigurau). Ar gyfer byrnau crwn wedi eu storio yn gonfensiynol (ar yr ochr grwn), o ran wyneb cloc, ystyriwch:

  • Y TOP yw'r arwyneb crwm o 10.30 i 1.30
  • Y GWAELOD yw'r wyneb crwm o 4.30 i 7.30
  • Yr OCHRAU yw'r ardaloedd rhwng 1.30 a 4.30 a 7.30 i 10.30 (yn ogystal â'r blaen a'r cefn)

Eich caniatâd

Darllenwch y wybodaeth a ddarperir isod cyn dechrau'r arolwg. Trwy gwblhau a chyflwyno'r arolwg, rydych chi'n cytuno y gall staff ymchwil ddefnyddio'r holl wybodaeth a ddarperir gennych mewn cysylltiad ag AROLWG SILWAIR BYRNAU MAWR.

 

Gall unrhyw wybodaeth a gesglir gan yr ymchwilwyr:

  • gael ei ddefnyddio ar gyfer yr astudiaeth ymchwil yma yn unig
  • gael ei ddefnyddio mewn adroddiad i'w gyhoeddi
  • gael ei gyflwyno mewn cynadleddau neu gyfarfodydd ymchwil

 

Dim ond cydweithwyr ymchwil awdurdodedig fydd â mynediad at unrhyw wybodaeth a gesglir gan yr ymchwilwyr. Bydd unrhyw wybodaeth a gasglir gan yr ymchwilwyr yn cael ei ddienwi a'i drin yn gyfrinachol ym mhob allbwn/neu adroddiad

 

Rydym yn cytuno bod gennych hawl i:

  • ofyn i weld copi / crynodeb o'r astudiaeth a gwblhawyd
  • ofyn i weld unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych chi sy'n cael ei gofnodi a'i gadw yn ystod y broses o gasglu data
  • wrthod caniatâd i ni ddefnyddio data eich arolwg ar unrhyw adeg ar ôl ei gyflwyno

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r astudiaeth yma, siaradwch â'r ymchwilydd yn uniongyrchol neu cysylltwch â hwy trwy e-bost neu ffôn gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarperir uchod.

 

Diolch

 

Mae'r wybodaeth a ddarperir gennyf, Rhun Fychan (arf@aber.ac.uk), yma ac ar dudalennau eraill o dan fy nghyfrifoldeb personol fy hun ac nid Prifysgol Aberystwyth. Yn yr un modd, fy marn i yw’r hyn a fynegir ac nid ddylid ei gymryd fel barn Prifysgol Aberystwyth.