Pŵer Mins Peis
Silouhette of santa's sleigh

English

Nadolig Llawen!

Gweithgaredd Ffiseg Nadoligaidd

Taflen waith Nadoligaidd yw hon wedi'i hanelu at fyfyrwyr CA3 a TGAU.

Pŵer Mins Peis

Rydyn ni i gyd yn gadael mins peis i Siôn Corn ar Noswyl y Nadolig.

Gydag yn agos i 400 miliwn o blant i ymweld â nhw, mae hynny'n nifer fawr o ddanteithion!

Dyw hyd yn oed Siôn Corn ddim yn gallu bwyta cymaint â hynny.

Felly beth sy'n digwydd i'r rhai sydd dros ben?

Efallai nad ydych chi'n gwybod bod car llusg Siôn Corn yn defnyddio mins peis fel tanwydd, fel mae car yn defnyddio petrol, disel neu drydan.

Faint o fins peis fyddai eu hangen i hedfan Siôn Corn o gwmpas y byd?

Fel gydag unrhyw broblem yn y byd real, yn gyntaf mae angen i ni ei symleiddio'n dybiaethau sylfaenol.

Yn gyntaf, mae angen gwybod faint o ynni sydd mewn mins pei. Bydd hyn yn amrywio rhwng gwahanol fathau. Felly rydyn ni'n dewis ffigur, yn yr achos hwn 226 kCal, sef yr ynni mewn un math o fins pei.

Dangosir tri mins pei ar blât.

Cam Un: Sawl joule (1 kCal = 4.184 kJ) sydd yn un o'r mins peis hyn?

I gymharu: mae'r ynni mewn tanwydd jet yn cyfateb i 44.65 MJ y kg.

Gadewch i ni felly dybio bod Car Llusg Siôn Corn yn cymharu ag awyren uwchsonig.

Awyren Concorde Air France yn fuan ar ôl esgyn

Spaceaero2, CC BY-SA 3.0, drwy Wikimedia Commons

Mae'r rhain yn defnyddio tanwydd ar gyfradd o 25,699 kg yr awr, sy'n gadael i'r awyren hedfan ar 2179 cilometr yr awr.

Cam Dau: Faint o ynni mae'r awyren uchod yn ei ddefnyddio yn ystod un awr o hedfan?

Y dybiaeth nesaf yw y byddai Siôn Corn yn teithio'r un llwybr â'r Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS). Byddai hyn yn golygu pellter o 43,000 km.

Map o'r byd gyda llwybr yr ISS wedi'i nodi

Traciwr ISS ar gael o'r Ganolfan Gofod a Thechnoleg Annibynnol

Cam Tri: Pa mor hir fyddai'n ei gymryd i'r awyren uchod (ac felly gar llusg Siôn Corn) deithio'r pellter hwn?

Amser = Pellter ÷ Cyflymder

Cam Pedwar: Faint o danwydd Jet fyddai ei angen ar gyfer yr ehediad?

Màs = Defnydd o Danwydd × Amser

Cam Pump: Faint o ynni sydd yn y cyfanswm hwn o danwydd?

Ynni sydd ei angen = Ynni fesul kg × Màs

Cam Chwech: Felly sawl mins pei fyddai ei angen i ddarparu'r un faint o ynni?

Nifer o Fins Peis = Ynni sydd ei angen ÷ Ynni mewn Mins Pei

Gweithgareddau Ymestyn

Ystyriwch y tybiaethau a ddefnyddir yn y cyfrifiad uchod: