Ymchwil Farchnata Diwrnod San Ffolant

English

Ymchwil Farchnata Diwrnod San Ffolant

Nod y gweithgaredd hwn yw ymarfer dadansoddi data ystadegol o ymchwil i'r farchnad (a ddarperir, yn yr achos hwn, gan finder.com).

Canlyniadau'r Arolwg

Bydd y gweithgaredd hwn yn cyflwyno ystadegau mewn sawl gwahanol fformat.

Rhaid ichi edrych ar yr wybodaeth hon a cheisio rhesymu'r gwahaniaethau a ddangosir rhwng y rhywiau, rhanbarthau a chenedlaethau.

Rydym wedi cynnwys ymarferion ym mhob adran i'w hystyried yn eich dadansoddiad.

Cynlluniau Diwrnod San Ffolant

Isod, fe welir siartiau sy'n dangos faint o bobl oedd yn bwriadu dathlu Diwrnod San Ffolant ac, os oeddent, faint y byddent yn ei wario.

Siart cylch yn cynrychioli'r wybodaeth isod am gynlluniau San Ffolant y dynion y gofynnwyd iddynt am eu barn: nid yw 21% yn bwriadu dathlu, mae 16% yn bwriadu dathlu heb wario ar anrhegion, mae 54% yn bwriadu gwario hyd at £100 ar anrheg(ion), ac mae 9% yn bwriadu gwario dros £100 ar anrheg(ion). Siart cylch yn cynrychioli'r wybodaeth isod am gynlluniau San Ffolant y menywod y gofynnwyd iddynt am eu barn: nid yw 21% yn bwriadu dathlu, mae 20% yn bwriadu dathlu heb wario ar anrhegion, mae 55% yn bwriadu gwario hyd at £100 ar anrheg(ion), ac mae 4% yn bwriadu gwario dros £100 ar anrheg(ion)

Ymarfer 1

Sut mae'r wybodaeth yma yn ein helpu ni i ddeall agweddau masnachol yr ŵyl hon yn well?

Yn eich barn chi, pam mae mwy na dwbl nifer y dynion yn debygol o wario dros £100 ar anrhegion?

Mae'r data a gasglwyd yn canolbwyntio'n ddeuaidd ar ddynion neu fenywod, sut gallai'r gwaith ymchwil wedi bod yn fwy cynhwysol, gan adlewyrchu cymdeithas a'r farchnad yn well?

Gwariant ar gyfartaledd

Yn yr adran flaenorol, gwelwyd faint o bobl oedd yn bwriadu dathlu Diwrnod San Ffolant a gwario arian ar anrhegion.

Os gwireddir y cynlluniau hyn, bydd £1.45 biliwn yn cael ei wario yn y DU ar anrhegion San Ffolant, sef £35.06 y person, ar gyfartaledd.

Fel y dangosir gan y patrymau a welir yn y siartiau cylch uchod, bydd dynion yn gwario mwy ar gyfartaledd (£44.24) na menywod (£26.24).

Er mwyn dadansoddi'r patrymau gwario yn y DU yn fwy trylwyr, gadewch inni edrych ar y gwariant cyfartalog ar anrhegion Diwrnod San Ffolant fesul rhanbarth.

Rhanbarth y Deyrnas Unedig Gwariant Cyfartalog ar Anrheg San Ffolant
Llundain £52
Gogledd-ddwyrain Lloegr £37
Dwyrain Lloegr £36
Gogledd Iwerddon £35
Gogledd-orllewin Lloegr £35
Swydd Efrog £35
Gorllewin Canolbarth Lloegr £33
Yr Alban £32
De-ddwyrain Lloegr £31
Dwyrain Canolbarth Lloegr £30
Cymru £29
De-orllewin Lloegr £28


Map o'r ardaloedd rhanbarthol yn y DU wedi'u tywyllu yn unol â'r wybodaeth a roddir yn y tabl uchod

Ymarfer 2:

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer siopau pob rhanbarth?

Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd â dewis cenedlaethol amgen i Ddiwrnod San Ffolant - sef Diwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25ain bob blwyddyn. Ystyriwch, felly, pam mae De-orllewin Lloegr sy'n gwario lleiaf, ar gyfartaledd?

Mae Llundain yn ei hystyried ei hun yn "Brifddinas Ramantus" y DU oherwydd ei gwariant cyfartalog uwch bob blwyddyn. Ystyriwch resymau eraill am y gwariant uwch hwn a sut gallai'r rhesymau hyn danseilio'r honiad hwn.

Y Gwahaniaeth rhwng y Cenedlaethau

Yn olaf, gadewch inni edrych ar y gwahaniaethau rhwng y gwariant cyfartalog ar anrhegion Diwrnod San Ffolant, fesul cenhedlaeth.

Siart bar yn dangos y canlyniadau isod ar gyfer gwariant cyfartalog pob cenhedlaeth:  Cenhedlaeth Z - £26.88, Y Mileniaid - £41.84, Cenhedlaeth X - £37.61, Cenhedlaeth y Cynnydd ('Baby Boomers') - £29.84, a'r Genhedlaeth Dawel ('Silent Generation' ) - £12.02

Diffiniadau:

Dyma dabl o'r tri grŵp oedran uchaf sy'n dathlu heb wario arian:

Cenhedlaeth Canran y bobl sy'n dathlu
Y Genhedlaeth Dawel 30%
Cenhedlaeth y Cynnydd 21%
Y Mileniaid 17%

Ymarfer 3:

Ystyriwch pam mai'r Genhedlaeth Dawel sy'n gwario lleiaf.

Pam, yn eich barn chi, mai'r Mileniaid yw'r bobl sy'n gwario mwyaf?

Cenhedlaeth Z sy'n gwario lleiaf, ar ôl y Genhedlaeth Dawel. Pam?