Yr Her Tŵr Wy

English

Yr Her Tŵr Wy

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn adeiladu tŵr sy'n gallu dal wy mor uchel â phosibl oddi ar y llawr.

Noder y gallai'r gweithgaredd hwn wneud llanast a dylid ei wneud o dan oruchwyliaeth oedolyn.

Fersiwn pdf i'w argraffu

Y Dasg

Adeiladu tŵr a all ddal wy mor uchel oddi ar y llawr â phosibl.

Bydd angen i chi weld beth sydd gennych i'w ddefnyddio a beth gewch chi ei ddefnyddio o'r dewisiadau isod:

Y Rheolau

Mae gennych 30 munud yn unig i adeiladu eich tŵr.

Dim ond un o'r cyfuniadau uchod gewch chi eu defnyddio - nid allwch ddewis a dethol rhwng y parau hyn.

Mae'n rhaid i'r tŵr sefyll ar ei ben ei hun (ni chaiff bwyso ar, na chael ei gefnogi gan, unrhyw beth arall).

Ni chewch lynu'r tŵr i arwyneb (er enghraifft llawr neu fwrdd).

Ni ddylid rhoi'r wy ar y tŵr nes y bydd y tŵr wedi'i orffen.

Er mwyn llwyddo, mae'n rhaid i'r tŵr sefyll am un munud (60 eiliad) ar ôl i'r wy gael ei roi yn y tŵr.

Caiff yr uchder ei fesur o waelod y tŵr i ran isaf yr wy.

Mae'n rhaid i'r wy aros yn gyfan.

Dylech olchi eich dwylo bob amser ar ôl gafael mewn wyau amrwd.

Yr Arbrawf

Gofynnwch i oedolyn cyfrifol wneud, neu oruchwylio'r arbrawf.

Fel y nodwyd yn y rheolau uchod, mae'n rhaid i'r wy a'r tŵr sefyll am 60 eiliad cyn mesur.

A yw'r pellter o waelod eich tŵr i ymyl isaf yr wy yn fwy nag 20cm?

Os ydyw, llongyfarchiadau! Os nad ydyw, ystyriwch roi cynnig arall arni gyda'r hyn rydych wedi'i ddysgu.

Os bydd aelodau eraill o'r teulu'n ymgymryd â'r her, gallwch gynnal cystadleuaeth i weld pwy sy'n gallu adeiladu'r tŵr wy uchaf.

Heriau Ychwanegol

Gobeithio'n fawr eich bod wedi mwynhau'r gweithgaredd hwn hyd yma. Dyma rai awgrymiadau sut i roi mwy o her i'ch hun os hoffech:

Gwnewch y gwrthrych y mae'n rhaid i'r tŵr ei ddal yn rhywbeth trymach a/neu fwy.

Ceisiwch weld os allwch chi gyrraedd mesuriad o dros 50cm.

Ceisiwch adeiladu'r tŵr gyda phapur yn unig.