Yr Her Gollwng Wy

English

Yr Her Gollwng Wy

Allwch chi gynllunio ac adeiladu rhywbeth a fydd yn atal wy rhag torri pan gaiff ei ollwng o uchder?

Nifer o wyau wedi torri ar arwyneb caled

Noder y dylid gwneud y gweithgaredd hwn y tu allan ac o dan oruchwyliaeth oedolyn.

Fersiwn pdf i'w argraffu

Beth gewch chi ei ddefnyddio:

Cewch ddefnyddio pensil, pren mesur, siswrn, a 3 yn unig o'r deunyddiau o'r rhestr isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i riant/gwarcheidwad am ganiatâd i ddefnyddio'r eitemau yr ydych wedi'u dewis, oherwydd mae'n bosibl y byddant yn cael eu difrodi yn ystod y gweithgaredd.

Papur

Carton Wyau

A Balŵn

Balwnau Dŵr

Papur Swigod

Berfa

    Cardfwrdd

    Tap Selo

    Powdr Cwstard wedi'i Gymysgu â Dŵr

    Pysgnau Pacio (Packing Peanuts)

    Ewyn Eillio

    Bandiau Rwber

    Bag Cario Plastig

    Llinyn

    Maneg Olchi Llestri

    Potel Ddiod Wag

    Hen Orchudd Gobennydd

    Tyweli Papur

Y Rheolau

  1. Mae'n rhaid i'r wy fod yn amrwd - os nad ydych chi eisiau defnyddio wy, efallai y gallech ddefnyddio balŵn dŵr yn lle hynny?
  2. Mae gennych 30 munud i gynllunio ac adeiladu eich amddiffynnydd wy - gosodwch amserydd.
  3. Mae'n rhaid i'r wy (neu'r balŵn dŵr) gael ei ollwng
  4. Dim ond y deunyddiau a restrwyd y cewch eu defnyddio
  5. Mae'n rhaid i oedolyn cyfrifol ollwng yr wy
  6. Mae'n rhaid i chi olchi eich dwylo bob tro ar ôl cyffwrdd wy amrwd

Yr Arbrawf

Dylech ofyn i oedolyn wneud hyn i chi. Mae'n rhaid i'r wy gael ei ollwng o uchder, yn ddelfrydol o ffenestr llawr cyntaf. Gwnewch yn siŵr nad oes perygl i neb gael eu taro yn ystod yr arbrawf. Byddwch yn llwyddiannus os na wnaeth yr wy dorri na gollwng/diferu.

Cwestiynau

Pam wnaeth/na wnaeth yr amddiffynnydd wy weithio yn eich barn chi?

Sut y gallech fod wedi gwella eich cynllun heb newid deunyddiau? Pam?

Pa ddeunyddiau fyddech chi’n eu defnyddio pe baech yn gwneud yr arbrawf eto? Pam?