Her Adeiladu Pont i Ddal Wy

English

Her Adeiladu Pont i Ddal Wy

Yn y gweithgaredd hwn rhaid adeiladu pont sy'n gallu dal wy yn ddiogel.

Noder, dylid gwneud y gweithgaredd hwn dan oruchwyliaeth oedolyn

Fersiwn pdf i'w argraffu

Y Cam Cyntaf

Y peth cyntaf y mae ei angen arnoch chi yw bwlch er mwyn adeiladu pont drosto. Er mwyn creu bwlch, byddwch angen dau wrthrych o'r un taldra wedi eu gosod ar arwyneb gwastad, gyda gwagle o 15cm rhyngddynt. Gwrthrychau 3cm o daldra fyddai'n ddelfrydol - er mwyn osgoi creu gormod o lanast os bydd eich wy yn disgyn. Rhowch haenen lynu (cling film) dros y gwrthrych a'r bwrdd rhag ofn i'r wy ddisgyn.

Ar ôl i chi greu'r 'bwlch', sicrhewch mai dim ond papur A4, gwellt yfed a chlipiau papur sydd ar gael ichi.

Y Dasg

Mae gennych 30 munud i adeiladu pont ar draws y bwlch a fydd yn gallu dal yr wy.

Ond, dim ond 50 credyd sydd gennych chi yn eich cyllideb. Mae pob taflen o bapur yn costio 5 credyd yr un, mae clipiau papur yn costio 2 gredyd yr un, ac mae pob gwelltyn yfed yn 10 credyd yr un.

Y Rheolau

Mae gennych 30 munud

Ni allwch ddefnyddio gwerth mwy na 50 credyd o ddeunyddiau

Dylai'r bont orffenedig allu dal wy yn y canol, heb i'r bont na'r wy gyffwrdd yr arwyneb oddi tanynt.

Ni ddylai'r wy gyffwrdd y bont nes bod y 30 munud wedi dod i ben - mae hyn yn golygu na ddylid profi'r bont wrth ei hadeiladu.

Heriau Ychwanegol

Os gwnaethoch fwynhau'r gweithgaredd hwn, dyma fwy o awgrymiadau i wneud y gweithgaredd yn fwy heriol:

Lleihau nifer y credydau rydych yn cael eu defnyddio.

Ymestyn y bwlch y mae'r bont angen cyrraedd drosto.

Defnyddio gwrthrych sy'n drymach na'r wy i brofi'r bont.